Trefniadau dychwelyd myfyrwyr prifysgol yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Myfyrwyr prifysgol mewn masgiauFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trefniadau i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i brifysgolion Cymru wedi'r gwyliau Nadolig.

Mae'n fwriad i fyfyrwyr ddychwelyd fesul cam i'w llety dros gyfnod o bedair i bum wythnos, gan ddechrau ar 11 Ionawr, a bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau'n raddol.

Bydd y cynllun peilot sy'n cynnig profion canlyniadau cyflym i bob myfyriwr, boed â symptomau ai peidio, yn parhau.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gael prawf ar ôl dychwelyd, ac osgoi cymdeithasu cyn cael ail brawf wedi tri diwrnod.

Os nad ydyn nhw'n cael prawf byddan nhw'n cael cyngor i leihau eu cysylltiadau ac osgoi cymysgu â phobl eraill am bythefnos.

Bydd y prifysgolion yn rhoi blaenoriaeth i unigolion sy'n gorfod dychwelyd yn gynnar, gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd, myfyrwyr sydd ar leoliadau, a myfyrwyr sydd angen mynediad i gyfleusterau campws.

"Bydd dychwelyd fesul cam, mewn ffordd sy'n cael ei rheoli, yn helpu i ateb y galw fel y gall pob myfyriwr gael dau brawf," meddai'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

"Bydd hyn yn helpu i dorri'r gadwyn drosglwyddo gan y bydd modd i unrhyw un sy'n heintus heb wybod hynny hunan-ynysu a lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws i eraill."

Ychwanegodd y bydd y mesurau a'r rhaglen brofi hefyd yn "sicrhau hyder wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb" a lleihau'r risg i nifer fawr o fyfyrwyr orfod hunan-ynysu yn ystod y tymor.

Ond fe bwysleisiodd bod hi'n bwysig fod "myfyrwyr yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol i ddiogelu eu hunain ac eraill".

Croeso o'r ddwy ochor

Dywedodd llywydd undeb NUS Cymru, Becky Ricketts, fod myfyrwyr nawr wedi cael y sicrwydd angenrheidiol "i gynllunio i ddychwelyd i'r campws yn y flwyddyn newydd".

Bydd parhad y cynllun profi'n "helpu i ddiogelu myfyrwyr a staff prifysgolion", meddai, ac "yn rhoi hyder i gymunedau lleol y bydd y broses o ddychwelyd myfyrwyr yn cael ei rheoli'n ddiogel".

Mae'r corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru hefyd yn croesawu cael "hyblygrwydd" i dderbyn myfyrwyr fesul cam ar ddechrau'r tymor.

Bydd y trefniadau'n galluogi sefydliadau i wneud y gorau o'u capasiti profi, medd cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson, "fel bod dysgu mewn person diogel yn gallu ailddechrau".

Mae staff a myfyrwyr, meddai, wedi gwneud "ymdrech enfawr" i sefydlu a chynnal y system brofi ar bobl asymptomatig", ac "mae'r galw am brofion yn dangos fod myfyrwyr yn deall pwysigrwydd profi i gadw'u hunain a'u cymunedau'n saff".