'Mwyafrif o bobl fregus Cymru i'w brechu cyn yr haf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r DU eisoes wedi archebu 40m dos o'r brechlyn - digon i'w ddarparu i 20m o bobl

Mae 'na obaith realistig y bydd "canran uchel o'r bobl mwyaf bregus" wedi derbyn brechlyn Covid-19 "rhwng diwedd y gwanwyn a'r haf" y flwyddyn nesa yn ôl Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd fore Sul dywedodd Dr Davies fod hi'n "amau a fydd pawb" yn derbyn y brechlyn erbyn y cyfnod hwn ond yn gobeithio y bydd y "mwyafrif wedi'u brechu".

Ychwanegodd Dr Davies y byddai'n rhaid i rhai sy'n derbyn y brechlyn barhau i ddilyn rheolau a chyfyngiadau coronafeirws fel gwisgo masgiau a chadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Pan ofynnwyd i Dr Davies am ba mor hir mae'r brechlyn yn gweithio dywedodd "nad ydan ni'n hollol siŵr eto".

"Ry' ni'n gwybod o'r treialon sydd wedi eu cyhoeddi bod y brechlyn yn lleihau'r haint yn yr unigolyn ac yn sicr yn lleihau difrifoldeb yr haint ond dydyn ni ddim yn siŵr eto a yw'r brechlyn yn atal pobl rhag trosglwyddo'r haint i eraill.

"Bydd rhaid astudio hynny wrth iddo gael ei roi," meddai.

"Dyw'r brechlyn ei hunan ddim yn golygu gallwn ni fynd yn hollol nol i'r arferol eto."

'Rhaid cadw at y rheolau'

Pan ofynnwyd i Dr Davies a fyddai'n rhaid i'r dos gael ei roi yn flynyddol neu'n gyson fel brechlyn y ffliw, dywedodd nad yw hynny yn eglur ar hyn o bryd.

"Fel 'dach chi'n dweud, mae'n rhaid cael brechlyn ffliw bob blwyddyn ac mae'n bosib mai fel yma fydd hi gyda'r brechlyn yma hefyd ond ar hyn o bryd mae'r treialon wedi dangos bod y brechlyn yn effeithiol ac yn lleihau'r siawns o haint neu ei ddifrifoldeb ond 'dyn ni ddim gwybod pa mor hir mae'r ymateb yna yn para," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

'Ry'n yn erfyn ar bobl i gadw at y rheolau," meddai Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ôl Dr Davies er bod na bryder am y rhai a fydd yn gwrthod y brechlyn, dydi Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn poeni'n ormodol gan mai nifer fach sy'n dweud hynny.

"Nifer fach sy'n ymwrthod â'r brechlyn," meddai.

"Ry ni wedi bod yn 'neud rhai ymholiadau i'r mater a gofyn i bobl beth yw eu bwriad ond mae'n edrych fel bod nifer eisiau'r brechlyn pan ddaw - sy'n obeithiol," ychwanegodd.

Ar ddiwedd y cyfweliad fe wnaeth Dr Davies erfyn ar bobl i gadw at y rheolau.

"Mae e yn anodd," meddai.

"Fi'n teimlo bod pobl wedi cael llond bol o hwn, fi hefyd!"

"Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus am dipyn bach rhagor i gadw hwn dan reolaeth achos mae pethau eraill yn cael eu heffeithio.

"Os yw'n gwasanaethau ni.. gormod yn yr ysbytai. Mae gwasanaethau eraill mae pobl angen ddim yn digwydd.

"Mae mor bwysig i drio cadw at y rheolau," meddai.

'Dim dychwelyd i'r hen normal'

Yn y cyfamser dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething y gall hi gymryd rai misoedd cyn y bydd pobl yn cael y brechlyn.

Mae e hefyd yn dweud wrth bobl am "beidio dychwelyd i'r hen normal cyn bod y brechlyn yn rhoi i ni yr amddiffyniad ry'n ei angen".

Mae disgwyl i'r bobl gyntaf yng Nghymru gael eu brechu ddydd Mawrth nesaf.

Pynciau cysylltiedig