Cyn-chwaraewyr rygbi'n dwyn achos am dementia
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Alix Popham, ymhlith wyth chwaraewr sy'n dwyn achos yn erbyn awdurdodau'r gêm am esgeulustod.
Mae'r wyth - sydd hefyd yn cynnwys Steve Thompson o dîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Byd 2003 - yn honni fod y gamp wedi eu gadael gyda niwed parhaol i'r ymennydd.
Mae pob un o'r wyth wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia, ac yn honni mai ergydion parhaus i'r pen sydd ar fai.
Deellir y bydd llythyr sy'n hawlio miliynau o bunnoedd o iawndal yn cael ei anfon yr wythnos nesaf i gyrff llywodraethol y gamp - yr RFU, Undeb Rygbi Cymru a World Rugby - ac y bydd achos grŵp yn dilyn.
Dyma'r camau cyfreithiol cyntaf yn y byd rygbi, ond os fydd y camau'n llwyddo, fe allai newid y ffordd y mae'r gêm yn cael ei chwarae.
Mae cyfreithwyr ar ran y grŵp yn awgrymu fod 80 yn rhagor o gyn-chwaraewyr rhwng 25 a 55 oed yn dangos symptomau, a bod ganddyn nhw bryderon difrifol.
Mae Undeb Rygbi Cymru, yr RFU a World Rugby wedi cael cais am ymateb.
Ymddeol yn gynnar
Enillodd Alix Popham 33 cap fel wythwr i Gymru, a chwaraeodd i'r Scarlets, Leeds a Brive yn Ffrainc cyn gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd anaf i'w ysgwydd yn 2011.
Chwaraeodd i Gymru yng Nghwpan y Byd yn 2003 a 2007.
Richard Boardman o gwmni cyfreithiol Rylands sy'n arwain y camau cyfreithiol.
Dywedodd: "Ry'n ni nawr mewn sefyllfa lle'r ydym yn credu bod cyrff rheoli rygbi ar draws y byd yn gyfrifol am beidio gwarchod chwaraewyr yn ddigonol yn y maes penodol yma.
"Ar hyn o bryd rydym yn cynrychioli dros 80 o gyn-chwaraewyr, ond rydym yn disgwyl i lawer mwy gysylltu gyda ni."
Mae Dr Willie Stewart wedi bod yn arwain tîm o Brifysgol Glasgow sy'n ymchwilio i dementia mewn pêl-droed, ac mae'n hyderus fod y broblem yn bodoli yn rygbi hefyd.
"Does dim amheuaeth o astudio'r data ar draws yr holl gampau, boed hynny'n bêl-droed, rygbi, pêl-droed Americanaidd - dwi wedi edrych ar ymenyddiau pobl o sawl camp wahanol," meddai.
"Y broblem yw casglu digon o brofiad gan gyn chwaraewyr rygbi i fedru dweud gyda sicrwydd, ond rwy'n credu mai ffôl iawn fyddai ei anwybyddu."
Mae problem cyfergyd mewn chwaraeon wedi cael ei drafod yn helaeth yn ddiweddar, ac mae'r cysylltiad rhwng penio pêl-droed a niwed i'r ymennydd wedi bod yn ddigon i orfodi newid rheolau ar lefel ieuenctid y gêm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018