Cadarnhad na fydd ffatri Ineos Grenadier ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Ni fydd cerbyd 4x4 newydd Ineos yn cael ei adeiladu yn ne Cymru, yn dilyn cadarnhad gan y cwmni.
Roedd Ineos wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun i gynhyrchu'r cerbyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ond ym mis Gorffennaf, dywedodd y cwmni ei fod yn atal y cynllun yna am y tro, wrth ymchwilio i safle arall yn Ffrainc.
Roedd gobaith y byddai cwmni wedi agor ffatri ger hen safle Ford - ble mae cannoedd o swyddi wedi eu colli.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, cadarnhaodd Ineos y byddai'r cwmni'n lleoli ei ffatri yn Hambach yn ardal Moselle.
Dywedodd cadeirydd Ineos, y biliwnydd Syr Jim Ratcliffe, bod Hambach yn cynnig cyfle "nad oedd modd ei anwybyddu".
Ychwanegodd Ratcliffe, oedd yn gefnogwr blaenllaw o'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ei fod yn deall y byddai'r penderfyniad yn siom i'r DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019