'Diffyg dealltwriaeth' o anghenion addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "ddiffyg dealltwriaeth" yn adran addysg Llywodraeth Cymru o anghenion addysg Gymraeg, yn ôl yr undeb athrawon, UCAC.
Daw sylwadau UCAC ar ôl i hysbyseb wreiddiol swydd Cyfarwyddwr Addysg y llywodraeth nodi nad yw sgiliau siarad a deall Cymraeg yn angenrheidiol.
Fe gafodd yr hysbyseb ei thynnu'n ôl ar ôl y dyddiad cau a'i newid i nodi bod "sgiliau cwrteisi" yn y Gymraeg yn hanfodol.
O hyn ymlaen, bydd pob swydd o fewn y llywodraeth yn gofyn am lefel o Gymraeg "cwrteisi" o leiaf. Mae hynny'n cynnwys ynganu enwau, ateb y ffôn a chyfarch pobl yn Gymraeg.
Wynebu wal
Ond yn ôl UCAC, ar gyfer y brif swydd addysg yng Nghymru, fydd yn gwneud penderfyniadau polisi ar addysg Gymraeg, dyw hynny ddim yn ddigon.
"Mae'n siom fawr i ni fel undeb nad yw Llywodraeth Cymru yn barnu bod y Gymraeg yn sgil angenrheidiol ar gyfer pennaeth yr adran addysg," meddai Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol UCAC wrth Newyddion S4C.
"Beth sydd wir ei angen yw gwneud yn siŵr bod 'na ddigonedd o weision sifil drwyddi draw yn yr adran, o'r top i'r gwaelod, yn deall beth yw system addysg ddwyieithog.
"Ry'n ni'n dod lan yn erbyn y wal yna yn gyson."
Ychwanegodd hefyd fod 'na ddiffyg dealltwriaeth o anghenion penodol addysg Gymraeg o fewn yr adran addysg.
"Ry'n ni'n gorfod codi'r mater a dweud wrth y gweision sifil 'os ydych chi'n gwneud hyn, bydd e'n cael yr effaith hyn ar y sector cyfrwng Cymraeg'."
'Ceisio creu brwdfrydedd'
Yn un o bwyllgorau'r Senedd cafodd y pryderon eu codi yn gyntaf, a'r Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan, yn ymateb i gwestiynau aelodau.
Dywedodd ei bod yn ceisio "creu brwdfrydedd" am yr iaith "yn hytrach na chreu unrhyw bryder neu awgrym bod chi'n methu dod yma os nad ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl".
Mae Siân Gwenllian AS, sy'n llefarydd y Gymraeg ar ran Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar y mater.
"Dyma chi swydd sy'n goruchwylio twf addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, ac mae peidio rhoi gofyniad sgil y Gymraeg i'r fath swydd yn arwydd bod nhw ddim yn wirioneddol o ddifrif ynghylch eu strategaethau nhw eu hunain," meddai.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei "pholisïau yn cael eu cynllunio a'u datblygu nid yn unig i ystyried, ond i gefnogi a chryfhau'r Gymraeg".
"Mae hyn yn unol â'n strategaeth Cymraeg 2050 a'r weledigaeth sydd wedi'i chynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015", meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2015