Nadolig tra gwahanol mewn cartrefi gofal eleni
- Cyhoeddwyd
Ar y ffôn gyda'i fam yr oedd Hywel Davies pan ffoniais - y ddau yn agos ond eto'n bell.
Ychydig o lathenni oedd rhyngddynt ond er mwyn i'r ddau glywed ei gilydd roedd rhaid siarad ar y ffôn gan bod gwydr yn eu gwahanu yng nghartref gofal Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn.
"Ydi mae'r Nadolig yn dra gwahanol eleni," meddai Hywel Davies o Aberystwyth sy'n dod i weld ei fam, Beti Davies, yn gyson.
"Ei gweld hi drwy'r ffenest ydw i a siarad â hi ar y ffôn er mwyn iddi fy nghlywed. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd - yn gynharach eleni mi gollais fy nhad a oedd hefyd yn byw yma yn y cartref gofal.
"Mi oeddwn yn gallu gweld Mam y tu allan pan oedd y tywydd yn well ond dyw hynny ddim yn bosib bellach - ry'n i gyd yn deall y sefyllfa, wrth gwrs, ac yn gobeithio y bydd pethau'n well gyda dyfodiad y brechlyn ond mae Mam yn colli gweld pobl yn fawr."
"Colli'r cyffyrddiad yna mae rywun eleni, wrth gwrs," medd y Parchedig Irfon Roberts, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Glyn Nest.
"Mae'r Nadolig yn ddigwyddiad mawr yn y cartref - fel arfer y plant a phobl leol yn dod i ganu carolau, y gwasanaeth ar fore Nadolig, ymweliad Siôn Corn a pharti deiliaid a staff.
"Mae peidio cael carolwyr yn codi arian eleni yn gwneud gwahaniaeth i'r coffrau ariannol hefyd ond mae pawb yn gwneud eu gorau a'r staff yn hollol wych."
'Negeseuon teulu yn bwysig'
Cheryl Stephenson yw swyddog gweithgareddau cartref Glyn Nest ac "mae cyfyngiadau eleni yn gorfodi Nadolig hollol wahanol", meddai.
"Mae yna lot llai o addurniadau oherwydd yr angen i'w diheintio yn rhwydd ond mae golau ar y coed tu allan.
"Coed Nadolig fflat sydd yn yr ystafell fwyta a bydd rheiny yn cael eu haddurno gan addurniadau bychain o waith plant yr ysgol gynradd leol.
"Yn ystod y diwrnodau diwethaf rwyf wedi bod yn casglu clipiau fideo sydd wedi cael eu ffilmio gan gapeli lleol, corau a theulu - mae'n bwysig bod y trigolion yn cael gweld y cyngherddau bach 'ma yn ystod y cyfnod ond yn fwy pwysig na dim rwyf wedi bod yn hel negeseuon gan deuluoedd.
"Mae'r bobl yma wedi bod yn cysylltu drwy gyfrwng Skype â'u teuluoedd ond dwi'n poeni y bydd y we yn brysur iawn fore Nadolig ac felly dwi wedi hel negeseuon gan deulu a ffrindiau pawb a bydd rheina yn cael eu dangos fore Nadolig.
"Fe fydd yna bantomeim dydd Nadolig a'r thema eleni yw 'Sleeping Beauty and the Covid Witch' - dim ond pedwar aelod o staff fydd ar gael i berfformio ac felly bydd yna gryn dasg iddynt newid cymeriad ond y neges sy'n bwysig sef bod y da yn gorchfygu'r drwg.
"Bydd y deiliaid yn cael cymryd rhan ond fydd cusanu yn cael ei wahardd.
"Fe fydd yna ginio mawr ond bydd rhaid pellhau'n gymdeithasol ac fe fydd Siôn Corn yn dod ond fydd y Parchedig Irfon Roberts yn colli'r rôl holl bwysig eleni oherwydd rheolau Covid."
"Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau naws y Nadolig ond fydd pethau ddim yr un fath - a'r cyfan y gallwn ei wneud yw gobeithio am ddyfodol gwell a bod ein deiliaid yn cadw'n ddiogel," ychwanegodd Mr Roberts.
Rhaid cadw'n ddiogel
Roedd Kim Ombler, rheolwraig cartref Glan Rhos ym Mrynsiencyn ar Ynys Môn yn profi cleifion am haint Covid pan ffoniodd Cymru Fyw.
"Mae hyn yn rhan hollbwysig o fywyd pob cartref gofal bellach a dyma ein ffordd o fyw," meddai.
"Bydd y Nadolig yn gwbl wahanol. Does neb yn cael dod mewn rŵan a rhoi cwtsh ond mae modd i anwyliaid weld y trigolion am 15 munud gan ein bod wedi gwneud ryw fath o pod o fewn y cartref ond yna mae'n cymryd chwarter awr i ni ei lanhau ar ôl pob ymweliad.
"Nadolig yw uchafbwynt calendr y cartref bob blwyddyn - ry'n ni'n cael lot o hwyl ond fe fydd pethau yn dra gwahanol eleni.
"Fel arfer ry'n ni wrth ein bodd yn cael pobl i ganu carolau yma ond fydd hynny ddim yn digwydd eleni a fydd gynnon ni ddim un bwrdd mawr ar gyfer y cinio - eleni bydd yn rhaid i ni addasu i'r cyfyngiadau.
"Mae gynnon ni goeden Nadolig ond 'dan ni ddim wedi rhoi lot o decorations fyny oherwydd petawn ni'n cael outbreak o Covid byddai rhaid i ni glirio'r cyfan yn syth.
"Ond fe fyddwn ni'n 'neud ein gorau - ar ddiwedd y dydd y peth pwysig yw fod pawb yn hapus ond yn cadw'n ddiogel. Mae Covid wedi taro rhai cartrefi gofal yn ddrwg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd20 Medi 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020