Dadorchuddio map i fedd William Williams Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Pantycelyn

William Williams Pantycelyn - Y Per Ganiedydd - yw un o emynwyr enwocaf Cymru. Ond nid pawb sy'n gwybod ymhle y mae wedi ei gladdu.

Wedi i rai fod yn holi yn lleol, mae criw bychan yn Llanymddyfri wedi dod at ei gilydd i osod hysbysfwrdd y tu allan i'r eglwys lle mae ei fedd.

Oherwydd sefyllfa Covid, mae nifer fechan o bobl wedi eu gwahodd i'r seremoni ddadorchuddio wrth fynedfa Eglwys Y Santes Fair yn y dref. Mae hanes yr eglwys ei hun hefyd ar yr hysbysfwrdd.

"Ni 'di neud tipyn yn ddiweddar yn tynnu sylw at enwogion yr ardal," medd un o'r trefnwyr, y Cynghorydd Handel Davies.

"Mae cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn y dre'. Ni 'di rhoi arwyddion ar gyfer Ogof Twm Sion Cati, plac glas i'r Ficer Pritchard a Banc yr Eidion Du.

"Ac mae'r hysbysfwrdd hwn yn bwysig i gofio William Williams Pantycelyn sydd wedi ei gladdu yn y fynwent fan hyn."

Mae arwyddion wedi eu gosod yn yr ardal hefyd i nodi lle yn union mae'r eglwys.

I'r hanesydd lleol a luniodd yr hysbysfwrdd, mae nodi lleoliadau hanesyddol yn holl bwysig.

"Yn anffodus, dy'n ni yng Nghymru ddim yn tueddu i ddangos be sy' gyda ni," meddai Dai Gealy.

"A be' ni'n gwneud fan hyn ydy dangos hynny, a dathlu'r ffaith bod William Williams Pantycelyn wedi ei eni fan hyn, a'i fod e wedi pregethu fan hyn.

"Ry'n ni yn ceisio tanlinellu'r ffaith fod y lle bach hwn yn ganolog i hanes Cymru. Mae'n gwbwl amlwg fod pobol am gael gwybod yr hanes, ond hanner yr amser, dy'n nhw ddim yn gwybod lle ma'r lle 'ma."

Obelisg o wenithfaen sy'n nodi bedd William Williams Pantycelyn, a fu farw yn 1791.

"Tan nawr, does neb wedi cael cyfeiriadau i wybod be' oedd e," eglura Handel Davies.

"Ma' gyda ni fap nawr ar yr hysbysfwrdd sy'n dangos i bobol sut i gerdded tuag ato, achos mae e wedi ei guddio y tu cefn i'r eglwys."

Mae'r criw sy'n gyfrifol am y fenter yn gobeithio y bydd yn adnodd gwerthfawr pan fydd modd i bobol grwydro unwaith eto wedi dyddiau'r pandemig.

Pynciau cysylltiedig