2,801 achos newydd o coronafeirws a 38 marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd 38 yn rhagor o farwolaethau pobl gyda Covid-19, sy'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau gyda'r haint yng Nghymru bellach dros 3,000.

Fe gafodd 2,801 o achosion newydd o'r coronafeirws hefyd eu cadarnhau - y nifer dyddiol uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mae 3,011 bellach wedi marw gyda'r haint yma.

O'r achosion newydd ddydd Gwener, roedd 297 yn Rhondda Cynon Taf, 283 yn Abertawe, 269 yng Nghaerdydd, 225 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 224 yng Nghaerffili a 219 yn Sir Gaerfyrddin.

O edrych ar y raddfa heintio dros gyfnod o saith niwrnod, Merthyr Tudful yw'r lle gwaethaf o hyd gyda graddfa o 1,128.9 am bob 100,000 o'r boblogaeth.

Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn ail ar 952.1/100,000.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod ffigyrau'r wythnos hon yn anwadal oherwydd diweddariad cyfrifiadurol achosodd i fwy na 11,000 o achosion eu hadrodd yn hwyr.

Pynciau cysylltiedig