Cyfarchion Nadolig i’r teulu yn fideo newydd Al Lewis

  • Cyhoeddwyd
Al LewisFfynhonnell y llun, Al Lewis

Mae'r canwr-gyfansoddwr Al Lewis, ers sawl blwyddyn bellach, yn cynnal cyngherddau Nadolig yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna, Caerdydd.

Yn llwyddiant mawr bob blwyddyn, roedd ymdeimlad o siom ymysg ffans Al a thrigolion Caerdydd na fyddai'r nosweithiau Nadoligaidd yn digwydd eleni.

Ond, er gwaetha'r cyfyngiadau mae'r cerddor wedi llwyddo i ddod â phobl ynghyd gyda'i gân Nadolig newydd Mi Gredaf I, gyda degau o bobl ledled Cymru yn anfon eu cyfarchion at eu teuluoedd mewn cyfres o fideos ar ôl i Al wneud cais amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth sôn am fynd ati i ddechrau casglu'r fideos, dywedodd: "Mi o'n i isio creu rhywbeth a fydde'n codi ysbryd pobl, yn sgil y sefyllfa 'da ni gyd yn ffeindio'n hunain ynddi eleni.

"O'n i isio dod â gwên i wynebau pobl a rhoi cyfle i bobl rannu eu negeseuon a dangos ein bod ni gyd yn meddwl am ein ffrindie a'n teulu er na fydden ni'n gallu gweld nhw i gyd 'leni."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Al Lewis

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Al Lewis

Gobaith yn y tywyllwch

Mae Al ei hun yn dweud fod y gân, iddo ef, yn golygu bod modd gweld gobaith drwy'r cyfnodau tywyll. Ymhelaethodd ar hyn: "Mi wnes i sgwennu Mi Gredaf I ar gyfer eleni i gofnodi'r ffaith ei bod hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i bawb, ond fod cyfnod y Nadolig dal efo'r gallu i rhoi gobaith i ni gyd."

Cafodd ei gais am negeseuon ymateb gwych a bu twrio drwyddynt i greu'r fideo terfynol yn brofiad emosiynol iddo.

"Mae hi wedi bod yn reit emosiynol i mi tra o'n i'n golygu'r fideos i gyd a gweld y negeseuon yn dod i fewn o bob cornel y byd, o Pittsburgh i Pwllheli!

"Dwi'n gobeithio 'neith pobl gael gymaint allan ohoni â dw i wedi'i gael wrth ei chreu hi. Dwi'n hynod o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i'r fideo.

"Gobeithio mewn blynyddoedd i ddod fydden nhw dal yn medru cyfeirio'n ôl at y fideo yma a chofio adeg gwallgof 2020!"

Bydd rhaglen Nadolig Al Lewis yn cael ei darlledu ar S4C am 20:45 noson Nadolig.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig