Uno pobl ar noswyl Nadolig drwy ganu Dawel Nos
- Cyhoeddwyd
Ar noswyl Nadolig mae trefnwyr Carol i Gymru yn annog pobl i ganu y garol Dawel Nos o flaen eu cartrefi am saith o'r gloch.
Mae'r syniad yn cael ei gefnogi gan yr Eglwys yng Nghymru ac mae esgob Eglwys Efengylaidd Lutheraidd yr Almaen wedi galw ar bobl yr Almaen i wneud yr un fath.
I'r hanesydd Marion Loeffler, Almaenes sy'n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd canu y garol Dawel Nos eleni yn fwy arwyddocaol nag erioed gan i'w thad farw yn Berlin bythefnos yn ôl ac oherwydd y cyfyngiadau dyw hi ddim wedi gallu mynd adre i'r angladd - a dyma'r Nadolig cyntaf erioed iddi dreulio oddi cartref.
"Dyma fy hoff garol ac eleni fydd fy mlwyddyn gyntaf ar y ddaear hon heb fy nhad a fu farw ar 11 Rhagfyr," meddai Marion Loeffler.
"Fe oedd y tad gorau yn y byd, y dyn oedd wedi siapio fi, wedi gwneud fi beth ydw i, dyn oedd yn caru Cymru ers i mi symud yma a dwi'n meddwl y byddai fy nhad yn mwynhau meddwl fod pawb ar draws y byd yn canu Dawel Nos eleni.
"Fe wnes ei weld ym mis Medi ac roeddwn wedi bwriadu hedfan ar noswyl Nadolig i'w weld ond fel mae'n troi allan i'w angladd ar y 30ain y buaswn i wedi mynd ond mae'r cyfyngiadau wedi atal hynny.
"Felly eleni fydda i gyda'r plant yma yn meddwl amdano fe ac wrth gwrs yn meddwl am fy mam hefyd sydd yn gorfod treulio'r Nadolig am y tro cyntaf erioed heb ei merch a'i hwyrion yn y tŷ ac heb ei gŵr - felly fyddai yn meddwl am fy amdani hi hefyd.
"Mae Dawel Nos yn rhan o'm plentyndod. Wrth gwrs, yr Almaen yw gwlad y Nadolig ac mae gwneud pletzien - bisgedi Nadolig a chanu Stille Nacht yn rhan o'r dathliadau.
"Mae yna le arbennig i'r garol yn fy nghalon ac fel arfer pan ydw i'n clywed Dawel Nos yn cael ei chanu mewn Almaeneg mae dagrau yn llenwi y llygaid ac fe fydd hyn yn fwy gwir eleni.
"Mae'n ergyd peidio gallu mynd nôl i angladd fy nhad fy hun ond dwi'n sylweddoli fod yna lawer iawn o bobl yn y byd nad ydyn nhw mor ffodus â ni.
"Dwi gartre efo fy mhlant, 'dan ni i gyd yn iachus, mae mam gartre ac mae fy mrawd yn byw yn agos a daw amseroedd gwell," ychwanegodd Marion Loeffler.
Mae'r rhai sydd wedi trefnu canu'r garol Dawel Nos wedi cael eu hysbrydoli gan yr arfer o guro dwylo i ddiolch i weithwyr y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn.
"Mae'n ffordd syml ac effeithiol o ddweud wrth bobl am stori'r Nadolig," medd un o'r trefnwyr - y Parchedig Kevin Ellis, ficer Bro Eleth yn Esgobaeth Bangor.
"Gobeithio y bydd Carol i Gymru, yn y cyfnod rhyfeddaf yma ac mewn un eiliad, yn dwyn pobl at ei gilydd, er ein bod ar wahân.
"Mae 'Dawel Nos' yn ein helpu i ganolbwyntio ar rodd bywyd a pha mor fregus yw hwnnw wrth i ni eto fyw, caru a chwerthin gyda'r baban Iesu," meddai.
Bydd Radio Cymru hefyd yn rhan o'r digwyddiad gan y bydd Huw Stephens yn chwarae Dawel Nos ar ei raglen am 19:00 noswyl Nadolig ac felly yn cynnig cyfeiliant i bawb sydd yn dymuno canu.
Dewiswyd Dawel Nos am nad yw'n deillio o'r Gymraeg na'r Saesneg. Fe'i cyfansoddwyd yn Awstria ac mae wedi dod yn gyfarwydd mewn nifer o ieithoedd gwahanol. Gall pawb ganu felly yn ei iaith ddewisol ei hun.
Bellach mae'r Esgob Kristina Kühnbaum-Schmidt yn Eglwys Efengylaidd Lutheraidd yr Almaen hefyd wedi galw ar bobl yr Almaen i wneud yr un peth ar yr un amser.
'Cysur yng nghanol tywyllwch'
"Gallai canu Tawel Nos gyda'n gilydd, efallai gyda channwyll yn ein dwylo fel golau yn yr holl dywyllwch sy'n pwyso i lawr ac yn bygwth bywyd, fod yn arwydd cysurus ar Noswyl Nadolig.
"Mae'r garol arbennig hon yn gweddu i'r noson gan y bydd hi yn dawelach eleni na'r nosweithiau Nadolig rydym wedi arfer â nhw - yn enwedig i'r rhai a fydd yn treulio'r cyfnod ar eu pennau eu hunain," meddai'r Esgob.
"Gallwn ddychwelyd at ein gwreiddiau yng Ngwlad y Gân a dathlu'r Nadolig mewn ffordd draddodiadol, gan godi ein lleisiau ar draws ein pentrefi a threfi i ledaenu llawenydd a heddwch ar draws Cymru a thu hwnt," dywedodd y cyd-drefnydd yng Nghymru, y Parch Rebecca Sparey-Taylor, offeiriad yn ardal cenhadaeth Dinbych.
Ychwanega Esgob Bangor, Andy John: "Rwy'n falch iawn bod yr Eglwys yng Nghymru yn gallu cefnogi'r cynllun hwn ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn ymuno.
'Dawel Nos' yw un o'n hoff garolau ac mae'n sôn am rywbeth cryf a disglair mewn cyfnod anodd. Bydd yn rhoi gobaith a llawenydd i lawer o bobl ac yn ein hatgoffa bod goleuni Duw yn gryfach na'r tywyllwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020