Unigolion a phartïon plygain i ganu'n rhithiol eleni

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin y llynedd

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau bydd nifer o eglwysi yn addasu eu gwasanaethau Nadolig eleni.

Mae'n fwriad hefyd i gynnal y Blygain Rithiol gyntaf er mwyn "parhau â'r traddodiad".

Dywed Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn, trefnydd y digwyddiad, bod meddwl am golli'r traddodiad yn siom a'i bod yn "awyddus i lenwi'r bwlch rhywsut a lleddfu tipyn ar yr hiraeth yn y gymuned leol".

"Gan fod cynnal digwyddiad ar y we yn golygu bod modd cael cyfranwyr o bob rhan o'r wlad roedd hyn yn cynnig cyfle i ni gynnal Plygeiniau rhithiol cenedlaethol," ychwanegodd.

Bydd y Plygeiniau Rhithiol yn cael eu cynnal ar Facebook ac YouTube - er bod y cyfrwng yn newydd, bydd y drefn draddodiadol yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Plygain

'Cadw at yr un drefn ond ar y we'

Mae Ffion Mair, o Lanwddyn yn wreiddiol, wedi bod yn casglu perfformiadau pawb at ei gilydd."Dwi mor falch ein bod ni wedi cael ymateb mor dda i'r syniad o gynnal gwasanaeth Plygain ar-lein gan unigolion a phartïon Plygain ledled Cymru," meddai.

"Bydd y gwasanaethau yn gyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned a hefyd yn dangos ein traddodiad unigryw i'r byd.

"Rydym wedi ceisio cadw mor agos â phosib at drefn a naws Plygain go iawn - bydd gweinidog yn ein croesawu i'r gwasanaeth, bydd Carol y Swper ar y diwedd ac, wrth gwrs, rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw un yn ailadrodd carol sydd eisoes wedi bod!"  

Mae'r cynllun yn gynllun gan y Mentrau Iaith a sefydliad Trac sy'n datblygu traddodiadau gwerin Cymru ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth y Cymry o'r traddodiad hynafol.

Dywedodd Blanche Rowen, Rheolydd Cwmni Trac: "Rydym ni, fel Trac, wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu helpu Mentrau Iaith i greu'r digwyddiadau yma.

"Mae hi mor bwysig fod Plygain yn digwydd rywsut eleni ac mae symud y gwasanaethau ar y we yn gyfle gwych i rannu'r traddodiad â chynulleidfa newydd ac ehangach."Bydd modd gwylio'r Plygeiniau Rhithiol ar dudalen Facebook Mentrau Iaith Cymru a YouTube Trac Cymru ar 20 Rhagfyr, 2020 a 3 Ionawr, 2021 am 18:00.

Pynciau cysylltiedig