Clo diweddaraf: Cyfnod 'pryderus iawn' i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eurig Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eurig Lewis bod y cyfnod clo yn 'amser pryderus iawn'

Mae wythnos y Nadolig yn gyfnod "pryderus iawn" i nifer o fusnesau ar draws Cymru, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Sadwrn y byddai cyfnod clo newydd yn dod mewn i rym o ganol nos fore Sul.

Bu'n rhaid i fusnesau sydd ddim yn rhai hanfodol gau eu drysau nos Sadwrn, gyda rhai yn aros ar agor yn hwyr gyda'r nos i geisio gwerthu gymaint o'u stoc â phosib.

Un o'r rhain oedd Eurig Lewis, perchennog siop ddillad Jackie James yng Nghaerfyrddin.

"O'n i wedi cau fan hyn am 5 o'r gloch, buon i gartref a ges i'r alwad ffôn i 'weud bo' ni'n mynd mewn i'r clo o ganol nos," dywedodd.

Penderfynodd Mr Lewis ailagor y siop ar ôl clywed y cyhoeddiad.

"'Da ni 'di gwaedu fel busnes trwy'r flwyddyn.... O'dd hi'n brysur iawn, ond 'to o'dd hi ddim yn llawn… buon ni'n gwerthu ymlaen bron a bod tan ganol nos."

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn "grac" gan ei fod yn teimlo nad oedden nhw wedi cael digon o rybudd gan y llywodraeth am y cyhoeddiad.

"Maen nhw'n gwybod am y straen newydd yma am dros ddeg diwrnod. O'n nhw'n dweud wrtho ni fyddai'r straen yn mynd yn waeth trwy'r cyfnod yma, so fi ddim yn deall pam bydde nhw ddim wedi rhoi mwy o rybudd i ni.

"Fi'n deall pam maen nhw 'di neud e 'fyd, ond galle nhw 'di neud e'n gynharach. Dwi'n credu hwnna yw'r peth, o'n nhw'n gwybod bod y cases yn mynd lan tair wythnos yn ôl… peidiwch roi chwe awr i bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd canol tref Caerfyrddin yn wag prynhawn dydd Sul

Cyfnod clo yn 'dwyn arian'

Yn ôl Mr Lewis, nid yw'r grant y gallen nhw dderbyn o'r llywodraeth yn cyfateb i'r arian byddai'r busnes wedi cymryd dros yr wythnos hon.

"Mae'r pum diwrnod sef ni yn nawr, yw'r pum diwrnod mwyaf llwyddiannus i bob un sydd â siop fel ni. Felly fi'n teimlo bod e braidd yn dwyn arian mewn un ffordd.

"Maen nhw'n mynd i roi grant i ni, a bydd hwnna fel dim byd i gymharu â beth fydden ni wedi cymryd yn y cyfnod yna.

"Fi'n ffodus iawn mae yna gwsmeriaid ffantastig 'da ni - newydd, hen, maen nhw yn grêt a byddwn ni'n fyth ddiolchgar am beth maen nhw 'di 'neud i ni. Ond o ran y busnes, ie, bydd e'n amser pryderus iawn 'to i ni."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gweithiodd Richard Lloyd tan 11:57 nos Sadwrn

Un arall a benderfynodd i weithio'n hwyr nos Sadwrn oedd Richard Lloyd, perchennog siop trin gwallt yng Nghaerfyrddin, Hope by Richard Lloyd, oedd newydd agor yr wythnos ddiwethaf.

Mae hefyd yn trin gwallt yn Aberystwyth, ble bu'n gweithio am rai oriau ar ôl clywed y cyhoeddiad.

"O'n i ar y ffôn yn flat out, yn dweud i'n clients i 'dewch heno'," meddai.

"Dreifias i mewn i Aberystwyth, ac oedd e'n mad. Gwnes i naw client o'dd fod cael eu gweld dydd Sul."

Dywedodd Mr Lloyd bod y newid i'r rheolau yn ergyd ariannol i'w fusnes. "O'n i'n mynd i weithio dydd Llun, Mawrth a Mercher, sy'n cyfateb i tua dros fil o bunnau wedyn."

Er hyn dywedodd bod gallu gweithio nos Sadwrn wedi "cario fi trwyddo'n bersonol nawr am dair wythnos arall."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n "lwcus bod fi'n gweithio ar ben fy hunan, ond fi'n becso am hairdressers oedd yn eistedd yna am 5 o'r gloch, y fridge yn llawn am y dyddiau nesaf, mae'n sucker punch really."

Pynciau cysylltiedig