Covid-19: Cyngor newydd i bobl fwyaf bregus Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cysgodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni ddylai pobl yn y grŵp risg categori uchel fynd i'r gwaith na'r ysgol y tu allan i'w cartref o hyn ymlaen, yn ôl cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach eleni, dywedwyd wrth y 130,000 o bobl yng Nghymru yn y "grŵp cysgodi" i aros y tu mewn yn ystod y pandemig.

Ym mis Awst, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallen nhw roi'r gorau i gysgodi.

Ond mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod y cyngor yn newid eto.

Dywedodd hefyd mai'r "dewis fwyaf diogel" i bobl yn y grŵp hwn yw "peidio â bod yn rhan o swigen Nadolig".

Penderfyniad ar sail 'sawl ffactor'

Mae'r cyngor newydd, meddai, yn "arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion, am gyfnodau hir, yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach".

"Bydd llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei anfon i gadarnhau'r cyngor hwn ond bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd pobl oherwydd cyfnod y Nadolig," meddai.

Ychwanegodd fod y penderfyniad, a fydd yn cael ei adolygu bob tair wythnos, wedi'i wneud "ar sail nifer o ffactorau".

"Ond y dylanwad diweddaraf," meddai, "oedd y twf sylweddol diweddar yn y cyfraddau heintio, o bosibl yn sgil yr amrywiolyn newydd o'r coronafeirws.

"Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl sy'n derbyn y llythyr yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i hawlio tâl salwch statudol

Pwysleisiodd fod pobl yn y grŵp yn cael parhau i fynd allan i ymarfer corff ac i apwyntiadau meddygol.

Ychwanegodd os ydy pobl yn dymuno creu swigen Nadolig, yna fe ddylen nhw leihau cysylltiadau cymaint â phosib, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau sydd â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebau yn rheolaidd a chadw dau fetr oddi wrth bobl eraill.

'Ddim yn ddigon pell'

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies ei fod yn "falch" ond nad oedd yn "mynd yn ddigon pell".

"Yr hyn y mae'r pandemig hwn wedi'i ddangos yw nad yw hanner mesurau yn ddigon da, yn enwedig pan mae adroddiadau heddiw mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o heintiau Covid-19 fesul 100,000 o bobl yn y byd," meddai.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni ein Cynllun Amddiffyn Gaeaf, a fyddai'n rhoi cefnogaeth ariannol, gorfforol ac emosiynol gadarn i'r rhai a fyddai'n gorfod cysgodi.

"Rhaid i ni beidio ag anghofio'r rhan hanfodol hon o'n cymuned wrth i ni fynd i mewn i dymor yr ŵyl sydd wedi'i newid yn barod."

'Rhywfaint o heddwch a chysur'

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros y Rhondda, Leanne Wood ei bod yn croesawu'r penderfyniad.

"Rwyf wedi bod yn galw am hyn ers rhai wythnosau ac roedd yr oedi cyn rhoi'r cyngor hwn yn edrych yn fwyfwy anodd ei gyfiawnhau gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd," meddai.

"Roedd hyn yn arbennig o wir ar ôl iddo gael ei ddatgelu bod yr amrywiad newydd, mwy heintus o coronafeirws mewn cylchrediad yng Nghymru.

"Rwyf wedi cael pobl yn y Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf eu bod wedi eu rhoi mewn sefyllfa ofnadwy o orfod dewis rhwng peryglu eu bywydau yn y gwaith neu aros gartref ac wynebu tlodi oherwydd nad oedd ganddyn nhw hawl i aros gartref.

"Rwy'n gobeithio y bydd y cyngor newydd hwn, sydd ond yn unol â'r canllawiau y mae Lloegr wedi'u cyhoeddi, yn dod â rhywfaint o heddwch a chysur i'r bobl hynny sydd wedi cael eu rhoi mewn cyfyng-gyngor ofnadwy."

Pynciau cysylltiedig