Negeseuon Nadolig gobeithiol, er heriau blwyddyn anodd
- Cyhoeddwyd
Ag hithau'n ddiwrnod Nadolig gwahanol iawn i'r arfer, ac ar ddiwedd blwyddyn heriol, mae arweinwyr crefyddol wedi rhannu negeseuon gobeithiol ar gyfer yr ŵyl.
Dylai pawb geisio cyd-dynnu, bod yn amyneddgar a chadarnhaol a chwilio am y goleuni ym mhen draw'r twnnel, meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies.
"Yng Nghymru, rydym newydd glywed y byddwn yn mynd yn ôl i gyfnod clo arall a bydd hynny wedi dychryn llawer ohonom ac, efallai, gwneud i ni feddwl nad yw'r goleuni ym mhen draw'r twnnel, yr oeddem ni'n meddwl ei fod yno, yno o gwbl ac yn sicr nad yw'n disgleirio mor llachar ag y gallai," meddai.
"Felly rhaid i ni i gyd dynnu at ein gilydd ac edrych, nid i'r tywyllwch, ond tuag at y goleuni, a chydnabod bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd."
Ychwanegodd: "Trwy ddyfeisgarwch dynol, cydymdeimlad dynol a'r gorau un mewn natur ddynol, mae cynnydd yn digwydd. Ac, er bod y ffordd yn mynd i fyny ac i lawr ac yn glonciog mewn ambell i fan, fe fyddwn yn dod trwy hyn.
"Gadewch i ni wneud ein gorau i fod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac, hyd yn oed os ydym yn wynebu anawsterau nad oeddem erioed wedi dychmygu y byddem, i arfer cred wirioneddol a dofn bod goleuni ym mhen draw'r twnnel y byddwn ni yn ei gyrraedd yn y diwedd."
Bydd yr Archesgob yn pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Nadolig am 11:00 mewn gwasanaeth fydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar dudalen Facebook y Gadeirlan.
Bendith cysylltiadau ar-lein
Wrth i bobl wynebu Nadolig dan gwmwl Covid, mae'r feirws yn ddi-rym i atal miliynau o bobl rhag cwrdd â ffrindiau a theulu trwy gyfrwng y rhyngrwyd, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei neges Nadolig yntau.
"Wrth i ni ddathlu genedigaeth Iesu Grist, y cyfathrebwr mawr rhwng Duw a dyn, mae'n fendith bod y dull hwn o gyfathrebu yn galluogi llawer i gyfarfod wyneb yn wyneb, er ar wahân," meddai'r Parchedig Dyfrig Rees.
"Mae'n gyfrwng sydd eisoes wedi gwasanaethu ein heglwysi'n dda yn ystod y pandemig ofnadwy hwn a gall helpu i leddfu digalondid llawer o bobl na allant gwrdd â'u teuluoedd yn bersonol y Nadolig hwn."
'Gwydnwch pobl wedi disgleirio'
Dywedodd Archesgob Pabyddol Caerdydd, George Stack fod 2020 wedi dod â mwy na'i chyfran o argyfyngau rhwng y pandemig, trafferthion economaidd, llifogydd a dryswch ynghylch Brexit.
Ond dywedodd bod argyfyngau'n gallu esgor ar "gyfle, her a ffordd newydd o edrych ar bethau a dod o hyd i atebion creadigol".
Dywedodd bod "yng nghanol yr holl helbul, mae cryfder, tosturi, dewrder a gwydnwch nifer di-ri o bobl wedi disgleirio".
"Rwy'n meddwl yn syth am staff y gwasanaeth iechyd," meddai. "Y proffesiynau gofal a brys.
"Athrawon sydd wedi parhau i addysgu ein plant, ar adegau dan yr amgylchiadau anoddaf.
"Y fyddin o wirfoddolwyr ar draws Cymru sydd wedi ymweld, siopa, bod yn gyfaill, dosbarthu pecynnau bwyd, gweithio mewn banciau bwyd a choginio prydau di-ri i'r rhai mewn angen."
Mae nifer o eglwysi Methodistaidd yn cynnal gwasanaethau Nadolig drwy gyfrwng Facebook.
Roedd neges ar wefan Undeb Bedyddwyr Cymru yn atgoffa pobl o neges yr ŵyl: "Wrth i ni wynebu Nadolig gwahanol eleni oherwydd y pandemig byd-eang, cawn ein hatgoffa mai canolbwynt popeth a ddathlwn yw rhyfeddod Iesu, Duw gyda ni, a anwyd ym Methlehem i fod yn Waredwr y Byd."
Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John: "Flwyddyn yn ôl, ychydig ohonom fyddai wedi dychmygu y byddwn yn dathlu'r Nadolig gyda chysgod feirws dros lawer iawn o'r byd.
"Llai fyth oedd yn gwybod beth yw Zoom, heblaw rywbeth ynghylch cyflymder a brys.
"Mae cymaint wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf nes bod darogan beth allai fod o'n blaenau fod mor ansicr a chyrhaeddiad y pandemig, sydd wedi cymryd cymaint o fywydau ac wedi gadael cymunedau'n teimlo'n ynysig ac yn drwblus. Mae'r gost i'r economi wedi bod yn enfawr a lles y wlad wedi dioddef, o bosibl, hyd yn oed yn fwy.
"Byddai hynny'n swnio'n llwm, y tu hwnt i waredigaeth oni bai bod brechiad ar fin cyrraedd ac yn addo dyfodol gwell.
"Nid yw'n eglur beth fydd o'n blaenau yn y normal newydd ond mae hwn yn gyfnod y bydd llyfrau'n cael eu hysgrifennu amdano."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020