'Parchu ein gilydd': Sut beth yw'r Nadolig i grefyddau eraill?
- Cyhoeddwyd
Mae sut i ddathlu'r Nadolig eleni wedi dod yn fater o fywyd a marwolaeth dros yr wythnosau diwethaf - yn fater gwleidyddol, diwylliannol, teuluol ac yn pontio crefyddau.
Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, mae bron i 60% o boblogaeth Cymru yn cyfrif eu hunain yn Gristnogion. Ond mae tua 30% yn cyfrif eu hunain yn ddigrefydd.
I'r lleiafrifoedd eraill sy'n perthyn i grefyddau gwahanol, dyw'r Nadolig ddim yn golygu yr un peth.
Mwslemiaid
Mae dros 46,000 o Fwslemiaid yn byw yng Nghymru - bron eu hanner yn byw yng Nghaerdydd. Yn eu plith mae Laura Jones, sy'n gwneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar arwyddocâd mis Ramadan i Fwslemiaid yn y Deyrnas Unedig.
"Dyw'r Nadolig ddim yn gyfnod arbennig i Fwslemiaid," medd Laura. "Wrth gwrs, mae'n ŵyl Gristnogol."
Dydi Laura ddim yn dathlu'r Nadolig yn ei chartref hi, ond mae'n ymuno â'i rhieni a'u brawd yn eu dathliadau nhw. Dydyn nhw ddim yn Fwslemiaid ac mae Laura eisiau parchu eu dymuniadau.
"Mae fy rhieni i a fy mrawd yn dathlu'r Nadolig. Fel arfer 'dan ni'n mynd i dŷ fy mam ac yn cael cinio Nadolig. Dy'n ni ddim yn gwneud unrhywbeth fel 'na yn fy nhŷ fy hunan, ond dwi'n ymuno â dathliad fy nheulu.
"Dwi'n meddwl achos mod i'n gwerthfawrogi pan mae fy nheulu yn ymuno â'n dathliad Eid ni, dwi'n deall eu bod nhw'n gwerthfawrogi os ydyn ni yn ymuno â nhw ar gyfer y Nadolig."
Rhoddion
Fel un sy'n hoffi pobi, mae'n edrych ymlaen at bobi dynion sinsir i'w rhannu gyda'r teulu. Ond fydd hi a'i gŵr ddim yn cyfnewid anrhegion ac er bod Jalal, eu mab bach blwydd a hanner, yn siŵr o gael anrhegion gan ei fam-gu, fydd Siôn Corn ddim yn galw i'w gartref.
"Dwi ddim eisiau dweud stori Santa iddo fe. Falle bydd fy rhieni yn dweud stori Santa, a bydd e'n dod ar draws Santa yn y feithrinfa ac yn y gymdeithas, ond wrth iddo dyfu bydda i'n gallu esbonio mai Santa yw traddodiad pobl eraill a bod ganddon ni ddathliadau eraill, fel Eid.
"Bydd yn rhaid i fi neud yn siŵr bod Eid yn rhywbeth arbennig iawn iddo fe, rhywbeth bydd e'n cofio ac yn mwynhau ac yn rhywbeth cyffrous iddo fe."
Iddewon
Ond agwedd ychydig yn wahanol sydd gan lawer o Iddewon ym Mhrydain at y Nadolig, yn ôl Andrew Misell o Gaerdydd. Does dim mwy 'na dwy fil o Iddewon yng Nghymru erbyn hyn, ond mae 'na tua 300,000 o Iddewon ym Mhrydain.
Wedi'i fagu mewn teulu Iddewig a Christnogol yn Llundain, mae Andrew Misell yn teimlo ei fod yn perthyn i ddau draddodiad: "Yn sicr dwi 'di mynd i ambell ginio Nadolig Iddewig lle mae 'na goeden yn y gornel a twrci ar y ford oherwydd bod Iddewon ym Mhrydain yn dathlu'r Nadolig fel digwyddiad diwylliannol fel trigolion eraill y wlad…"
Wedi dweud hynny, mae'n cydnabod nad yw pob Iddew yn teimlo yr un fath.
"Wrth gwrs, mae 'na rai Iddewon crefyddol iawn sy'n credu bod y Nadolig yn ŵyl i bobl eraill a ddim yn mynd yn agos ati."
Gŵyl y goleuni
Mae gŵyl wyth niwrnod Hannukah newydd ddod i ben - gŵyl y goleuni i Iddewon. Mae'n dathlu'r cyfnod yn yr ail ganrif pan ailgipiodd y Macabeiaid y deml yn Jerwsalem oddi ar y Groegiaid.
Yn aml, mae'r digwydd yn agos at y Nadolig ac mae rhai teuluoedd Iddewig yn rhoi chunnukah gelt - sef ceiniogau siocled - i blant yn lle anrhegion. Ond mae Andrew yn cofio cynnau canhwyllbren - y menorah- adeg dathliadau Nadoligaidd.
"Dwi wedi gweld y menorah yn llosgi wrth goeden Dolig yn nhŷ Mam-gu pan o'n i'n fach. Dwi wedi bod yna yn cael cinio, tatws a sbrowts a wedyn pan oedd yr haul yn machlud, ro'n i'n mynd ati gyda Mam-gu i gynnau'r canhwyllau a doedd hynna ddim yn teimlo'n rhyfedd o gwbl. Roedd yn rhan o fod yn Iddew ym Mhrydain."
Erbyn hyn, ac yntau yn Grynwr, Nadolig tawel gyda'i wraig a'i ddau o blant yw ei arfer.
'Parchu dathliadau ein gilydd'
Ond, gyda'r cyfyngiadau coronafeirws wedi tynhau eto, prin y bydd hi'n 'Ddolig arferol i unrhyw deulu eleni.
Bydd pobl o bob cefndir yn gobeithio y bydd modd dathlu gwyliau yn llawn y flwyddyn nesaf.
Roedd Laura yn teimlo rhwystredigaeth pan gafodd cyfyngiadau'r coronafeirws eu llacio ar gyfer y Nadolig, er na ddigwyddodd hynny ar gyfer gwyliau crefyddau eraill.
"Dwi tipyn yn rhwystredig, dyw e ddim wir yn teimlo'n deg. Dwi'n deall bod mwy o bobl yn dathlu'r Nadolig yn y Deyrnas Unedig, ond mae'n teimlo fel bod y llywodraeth ddim yn parchu ein dathliadau ni."
Yn amlwg, mae'r cyngor wedi newid wrth i nifer yr achosion coronafeirws gynyddu'n frawychus o gyflym, ond mae Laura'n gobeithio y bydd mwy o ystyriaeth o ddathliadau crefyddau eraill y flwyddyn nesaf - beth bynnag fydd y sefyllfa.
Iddi hi, mae trafod arferion crefyddol amrywiol yn bwysig er mwyn chwalu chwedlau ffug - yn enwedig am agwedd Mwslemiaid.
"Mae'n bwysig cael y sgwrs yma - jyst i ddangos ein bod ni'n parchu ein gilydd.
"Er nad ydw i yn dathlu Nadolig fel Cristion, nid yw hyn yn golygu fod hyn ddim yn parchu'r dathliadau ac nid ydw i eisiau cael gwared â'r Nadolig na unrhywbeth fel 'na.
"Mae'n bwysig iawn i ni siarad â'n gilydd am beth yw'n credoau ni."
Hefyd o ddiddordeb: