Dros 2,500 o bobl wedi dal Covid yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
claf a staff mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 2,500 o heintiadau Covid-19 wedi'u cysylltu ag ysbytai Cymru ers mis Hydref.

Yn yr wythnos hyd at 20 Rhagfyr, roedd yna 263 achos o heintio pendant neu debygol o fewn ysbyty.

Mae gostyngiad wedi bod yn nifer heintiadau ysbyty o fewn chwech o fyrddau iechyd Cymru, ond fe welodd un - Hywel Dda - gynnydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Am yr ail wythnos yn olynol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg welodd y nifer uchaf o heintiadau ysbyty. Mae 261 o bobl wedi marw hyd yma ar ôl dal coronafeirws yn ysbytai'r ardal. Cwm Taf yw'r unig fwrdd iechyd i gyhoeddi'r ystadegau hyn.

Marw 'wedi misoedd o aros gartre'

Yn 82 oed, cafodd Alan Lloyd ei dderbyn yn Ysbyty Treforys ym mis Medi am driniaeth at boen cefn. Cafodd haint gwaed a bu'n rhaid cael gwrthfiotigau dwys.

Wedi pedair wythnos, cafodd ganlyniad Covid-19 positif. Er na chafodd symptomau difrifol am bythefnos, bu farw o fewn dyddiau wedi i'w gyflwr waethygu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Alan Lloyd gyda Covid ar ôl mynd i'r ysbyty am driniaeth at boen cefn

Dywedodd ei ferch, Carole Egan: "Yr holl fisoedd 'na gartre pan gadwodd ei hun yn ddiogel. Aeth e ddim mas, a 'sa i jest ddim yn meddwl dylai fod wedi ei ddal mewn ysbyty.

"Rwy'n deall bod e'n anodd achos bydd yna bobl asymptomatig, a staff yn gweithio o gwmpas pobl heb unrhyw symptomau, ond gyda'r lefelau'n codi ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn gwaethygu."

Dywedodd Ms Egan bod y ward yn gymharol agored, o ystyried bod nifer o gleifion Covid yn cael eu trin yno. Roedd nyrsys a staff cynorthwyol yn gwisgo masgiau a ffedogau papur, meddai, ond roedd "wedi disgwyl gweld lefel amddiffyn uwch".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Yn ei dagrau'

Cafodd Gaynor Roche, 77 oed ac o Gaerdydd, ei derbyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddechrau Rhagfyr gyda thrafferthion anadlu.

Treuliodd ddeuddydd mewn "ardal asesu" yno wrth aros am ganlyniad prawf Covid. Roedd hwnnw'n negatif ac fe gafodd ei symud i ward cardioleg.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Gaynor Roche eu bod yn falch ei bod bellach wedi dychwelyd adref o'r ysbyty

Roedd Mrs Roche yn bryderus ynghylch gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd y pandemig, ac fe geisiodd ei hŵyr, James Marshall, roi sicrwydd iddi y byddai'n saff gan fod cleifion Covid yn cael eu trin ar wahân.

Ond fe ffoniodd Mr Marshall yn ei dagrau un prynhawn wedi i glaf Covid gael ei symud i'w ward. Cafodd hynny ei gadarnhau iddo mewn galwad ffôn gyda nyrs a ddywedodd bod ei symud i'r ward yn "anghywir" - penderfyniad a gafodd ei wneud "ar lefel uwch".

Ffoniodd Mrs Roche eto i ddweud bod y ward dan glo. Cafodd hyn unwaith eto ei gadarnhau gan nyrs. O ganlyniad nid oedd cleifion yn cael gadael y ward, hyd yn oed i fynd i'r tŷ bach, a bu'n rhaid iddyn nhw rannu un comôd.

Yn ôl Mr Marshall, roedd ei nain yn ofidus ynghylch glendid ac awyru'r ward, ac mae'r teulu'n falch bod hi bellach yn ôl adref.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cael cais am ymateb.