Pobl ar draws y byd yn rhan o bantomeim Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CinderellaFfynhonnell y llun, Alamy

Fel arfer mae perfformiadau pantomeim yn llenwi theatrau yr adeg yma o'r flwyddyn, ac yn helpu i lenwi coffrau cwmnïau theatr ond gan nad yw hynny yn gallu digwydd eleni mae cwmni theatr cymunedol yn Y Drenewydd wedi cynhyrchu fersiwn rithiol o Cinderella.

Mae 300 yn rhan o gynhyrchiad cwmni Theatr Alliance - y mwyafrif o'r canolbarth ond mae rhai wedi cyfrannu o ochr draw'r byd.

Ffynhonnell y llun, Theatr Alliance
Disgrifiad o’r llun,

'Mae cael pantomeim rhithiol yn tynnu pawb at ei gilydd unwaith eto'

Ceri Williams sy'n chwarae rhan y Chwaer Hyll ac mae'n dweud bod y cyfan wedi bod yn antur gyffrous.

"Mae'n syniad bendigedig," meddai, "gyda phob un o'r 300 ohonom wedi cael llinell yr un i'w recordio ar ein ffôn symudol. Rhaid i ni e-bostio y recordiad i'r Drenewydd a does gen i ddim syniad sut fydd y cyfan yn edrych ar y diwedd.

"Wrth recordio doedd gen i ddim syniad o gwbl sut y byddai'r llinell yn ffitio yng nghyd-destun y pantomeim.

"Y peth cyntaf oedd yn rhaid i fi wneud oedd cael gwared o'r gŵr a'r ddau blentyn ac wedi iddyn nhw fynd allan fe wnes i wisgo lan fel y chwaer hyll - wig, make up - ac yna roeddwn i'n actio o flaen y ffôn. 'Nes i fwynhau hynna lot."

'Rhan o'r gymuned unwaith eto'

"Dwi'n berson eitha creadigol a dyna pam bo fi isio 'neud o," ychwanegodd Ceri Williams.

"Mae'n fwy pwysig eleni gan bo fi ddim wedi gweld neb lot drwy'r flwyddyn - felly roedd o'n neis teimlo yn rhan o gymuned unwaith eto."

Ffynhonnell y llun, Theatr Alliance
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard, un o'r 50 sy'n actio Cinderella, yn byw yn Sydney

Mae mwyafrif y cast yn byw yn ardal Y Drenewydd ond mae rhai o actorion eleni yn byw ym mhen draw'r byd.

Mae yna actorion o America, De Affrica, Sbaen a Phortiwgal a rhai actorion o Sydney yn Awstralia.

Fe glywodd Richard Ingold am y perfformiad gan ei fodryb sy'n byw yn Llanfair Caereinion ac mae e'n un o 50 o bobl sy'n chwarae rhan Cinderella

Ffynhonnell y llun, Theatr Alliance
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd y gwisgo lan hefyd yn hwyl'

"Mae'r cyfan yn ffantastig," ychwanegodd Ceri Williams, "yn nyddiau y byw ar wahân mae'n tynnu pobl o bob man at ei gilydd a gobeithio y byddwn yn gallu cael ein pantomeim arferol y flwyddyn nesaf."

Mae modd gweld y pantomeim ar wefan Cwmni Theatr Alliance, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig