Nifer y cleifion Covid yn yr ysbytai ar ei uchaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Staff a chlaf ar droli mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros draean o gleifion ysbytai Cymru yn cael eu trin am Covid-19, yn ôl ffigyrau diweddara'r GIG.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mae dros hanner y cleifion yn cael triniaeth am y feirws.

Ac mae'r nifer sydd angen gofal critigol neu'n cael triniaeth awyru ar ei uchaf ers dechrau'r pandemig

Roedd 2,610 o gleifion Covid mewn ysbytai yng Nghymru ddydd Mercher - 252 (11%) yn uwch na'r wythnos flaenorol, a'r uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mae nifer y cleifion sy'n gwella o'r feirws, ond sy'n dal yn rhy sâl i gael mynd adref, hefyd ar ei uchaf.

Beth mae'r ffigyrau'n ddangos?

  • Cynnydd o 21.5% o gleifion Covid mewn wythnos yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

  • Cynnydd ym mhob rhanbarth yn ystod yr wythnos, a Chwm Taf Morgannwg ar y brig gyda 627 o gleifion, sy'n golygu bod 52% o gleifion ysbytai'r ardal yn dioddef o'r feirws

  • Mae'r ffigwr cyfatebol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn 48%

  • O'r rhai oedd mewn ysbyty ar 30 Rhagfyr roedd 1,618 wedi eu cadarnhau fel cleifion Covid, 181 ar amheuaeth o fod â'r haint, ac 811 yn gwella o'r feirws.

Dioddefwyr Covid yw 34% o'r holl gleifion yn yr ysbytai.

Mae hyn yn cymharu â tua 18% ddiwedd Mai, ond mae'r nifer wedi cynyddu'n raddol yn y pythefnos diwethaf.

Cleifion sy'n gwella o Covid - sef y rhai sy'n dal yn yr ysbyty ond heb ddangos unrhyw symptomau ers 14 diwrnod neu ragor - yw 10.5% o'r holl gleifion ysbytai.

Ar 30 Rhagfyr roedd 119 o gleifion yn cael triniaeth ar welyau awyru (invasive ventilated beds), yn cynnwys rhai mewn gofal critigol sydd naill ai wedi eu cadarnhau neu dan amheuaeth o fod yn dioddef o'r feirws. Mae hyn yn 17 yn fwy na'r wythnos cynt, ac mae'r ffigyrau ar eu huchaf ers mis Ebrill.

'Dan y pwysau mwyaf dybryd'

O ran gofal critigol, pan oedd y pandemig ar ei anterth roedd ysbytai Cymru'n trin 164 o gleifion.

Roedd gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg 30 claf mewn gofal critigol neu'n derbyn triniaeth awyru ymosodol [invasive ventilation] ar 30 Rhagfyr. Mae'r ffigwr hwn wedi bod mor uchel â 36 yn y dyddiau diwethaf, a dyma'r niferoedd uchaf ers dechrau'r pandemig.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod "o dan y pwysau mwyaf dybryd".

Mae unedau gofal critigol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld rhai o'r ffigyrau uchaf hyd yma hefyd, gydag 19 ddydd Mercher. Ond roedd cymaint â 24 yn syth ar ôl y Nadolig.

Dywedodd Dr Richard Pugh, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan: "Mae nifer yr achosion yn mynd i fyny fesul wythnos yng ngogledd Cymru, ac yng ngogledd ddwyrain Cymru mae nifer yr achosion wythnosol yn uwch na cyfartaledd Cymru.

"Mae hyn yn mynd i olygu y bydd pethau'n mynd yn fwy anodd yn yr wythnosau nesaf.

"Mae'r wythnos yma wedi bod yn arbennig o ddyrys i ofal critigol. Rydym yn uwch o lawer na'n capasiti arferol. Rydym wedi ehangu i ardaloedd eraill sydd heb fod yn gritigol, fel theatre recovery, ac rydym yn gorfod rhagweld effaith hyn ar gynyddu trosglwyddiad yr haint yn y gymuned."

Mae'r nifer sy'n cael eu derbyn i'r ysbytai hefyd ar ei uchaf ers canol Mai, gyda chyfartaledd saith-niwrnod o 123 ar 30 Rhagfyr.

Cleifion sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty yw dros 17% o'r holl dderbyniadau ysbyty, ond nid yw'r ffigyrau'n dangos faint sydd wedi dal yr haint tra yn yr ysbyty.

Mae'r lefelau heintio diweddaraf yn dangos bod 205 o achosion newydd o ddal yr haint mewn ysbyty yn yr wythnos hyd at 27 Rhagfyr, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae bron i 2,900 achos o ddal yr haint mewn ysbytai wedi cael eu cofnodi ers mis Medi.

Ddydd Mercher dywedodd Cymdeithas Feddygol y BMA y dylai brechu staff fod yn flaenoriaeth, a'i fod yn pryderu o glywed fod rhai gweithwyr GIG yn cael trafferth wrth geisio cael brechiad.

"Fedrwch chi ddim rhedeg gwasanaeth iechyd heb staff a gyda nifer yn hunan ynysu neu'n sâl efo'r feirws eu hunain, rydym mewn perygl o ddymchwel," meddai Dr David Bailey, cadeirydd BMA Cymru.