'Anwybyddu pandemig byd-eang' i nodi troad y flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Swyddog heddlu ar ddyletswydd yn ardal Pen Y Fan
Mae achosion o dorri rheolau Covid i nodi'r flwyddyn newydd yn "anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang", yn ôl un o brif gwnstabliaid Cymru.
Dywedodd lluoedd ddydd Gwener eu bod eisoes wedi cofnodi achosion eleni, a bod rhai pobl wedi teithio i Gymru o Southampton, Caint a Solihull.
Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gofnodwyd sawl achos o dorri'r rheolau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu rhanbarth Nos Galan.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd cyfrif Twitter y llu yn Rhondda Cynon Taf fod dirwy wedi ei rhoi wedi i bobl ddod at ei gilydd yn ardal Ferndale. Roedd eraill wedi cael gair o gyngor a'u danfon adref.
Fe fu plismyn yn atal cerbydau yn ardal Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd rhai o'r perchnogion yn dod o lefydd fel Gateshead a Middlesex. Dywed y llu y bydd camau pellach yn erbyn unigolion am dorri'r rheolau.
Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan at Twitter bod yna achosion o "ymosodiadau, yfed a gyrru a phobl yn anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang".

Plismona'r cyfyngiadau - ystadegau Heddlu'r De
Roedd yna 240 o adroddiadau bod rhywrai'n torri rheolau Covid nos Galan yn unig yn y rhanbarth, gan arwain at 43 o Rybuddion Cosb Benodol. Mae rhagor o ymholiadau eto i'w cwblhau.
430 oedd cyfanswm y Rhybuddion Cosb Benodol yn ardal y llu trwy fis Rhagfyr.
Mae 941 o gerbydau wedi cael eu gwirio ers 23 Rhagfyr fel rhan o ymgyrch sy'n parhau tan o leiaf 11 Ionawr.

Gyda Chymru gyfan dan gyfyngiadau Lefel 4 ers 20 Rhagfyr, mae pobl ond yn cael gadael eu cartrefi dan amgylchiadau penodol.
Mae hynny'n cynnwys teithiau hanfodol er mwyn gweithio, siopa am fwyd a meddyginiaeth, neu ddarparu gofal.
Mae hefyd yn bosib mynd allan i wneud ymarfer corff, ond mae disgwyl i'r daith ddechrau a darfod ar y stepen drws.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Claire Evans o Heddlu'r De: "Mae'r cyfyngiadau sydd mewn grym yna am reswm, ac mae cyn bwysiced ag erioed i ymddwyn yn gyfrifol.
"Yn hytrach na meddwl pa mor bell allwch chi fynd [heb gael eich dal neu eich cosbi], meddyliwch amyr hyn ddyliech chi wneud i gadw eich hun ac eich teulu'n ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020