Covid-19: Cymru'n parhau i wynebu sefyllfa 'ddifrifol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod achosion yn "cynyddu yn gyflym yn y gogledd"

Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn unedau gofal dwys ar ei lefel uchaf ers y gwanwyn gyda'r sefyllfa yn un "ddifrifol iawn" medd Llywodraeth Cymru.

Daeth rhybudd y Gweinidog Iechyd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, gyda chadarnhad ganddo fod yr amrywiad newydd o'r haint yn ymledu yn gyflym drwy'r wlad.

Yn ôl Vaughan Gething mae achosion positif yn parhau yn uchel er bod "wedi gostwng rhywfaint o'r lefelau anhygoel o uchel cyn y Nadolig."

Er bod gostyngiad yn y lefelau wedi bod yn y rhan fwyaf o Gymru, roedd achosion yn "cynyddu yn gyflym yn y gogledd", meddai.

Dywedodd y gweinidog fod cyfradd achosion Cymru wedi gostwng o 636 achos fesul 100,000 o bobl ar 17 Rhagfyr i 446 o achosion heddiw.

"Mae hyn yn dal i fod yn llawer rhy uchel," rhybuddiodd.

Ychwanegodd rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli'r ffigyrau ynglŷn â gostyngiad am fod llai o bobl wedi eu profi dros gyfnod y Nadolig, meddai.

Dywedodd fod y gyfran o bobl sy'n cael profion positif yn parhau i fod yn uchel iawn ar 25%.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething fod y niferoedd yn parhau i fod "yn llawer rhy uchel"

Yn gynharach ddydd Llun cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod i 1,898 o achosion newydd o coronafeirws wedi eu cofnodi.

Cafodd 25 o farwolaethau hefyd eu cofnodi mewn 24 awr hyd at 09:00 fore Sul, 3 Ionawr.

Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru fe wnaeth Mr Gething gadarnhau fod Cymru wedi derbyn y cyflenwad cyntaf o 22,000 dos o frechlyn Oxford-AstraZeneca, gyda mwy i ddod.

Dywedodd y bydd nifer y canolfannau brechu torfol yn cynyddu i 22 a bydd mwy na 60 meddygfa yn cynnig brechlyn Rhydychen.

Gwadodd sylw bod Cymru "ar ei hôl hi" wrth gyflwyno brechlynnau Covid-19, ac addawodd y byddai'r broses yn "cyflymu'n sylweddol" yn y broses yn yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal, meddai, bydd unedau symudol yn cael eu sefydlu ledled Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn disgwyl am dystiolaeth newydd ar ysgolion gan wyddonwyr

Wrth i ysgolion Cymru baratoi ar gyfer dychweliad graddol i ddysgu wyneb yn wyneb dros bythefnos roedd yna awgrym gan y gweinidog iechyd y gallai pethau newid.

Dywedodd Mr Gething bod cau ysgolion yn parhau i fod yn "ddewis olaf" ond ychwanegodd "os bydd y dystiolaeth yn newid yna bydd yn rhaid i ni ystyried y dystiolaeth honno ac fe allai hynny arwain at ddewis gwahanol".

"Rydyn ni'n disgwyl cyngor wedi'i ddiweddaru gan ein harbenigwyr gwyddonol ac iechyd cyhoeddus ein hunain dros yr ychydig ddyddiau nesaf," meddai.

"Os cawn ni hynny yn hwyrach heddiw fe allai arwain at benderfyniad, os cawn ni hynny yfory fe allai arwain at benderfyniad.

"Ond rydw i eisiau bod yn wirioneddol glir, mae tystiolaeth yn sail i'r dewisiadau rydyn ni'n eu gwneud bob amser."

Pan gafodd ei holi ynglŷn â chosbau llymach ar gyfer y sawl sy'n torri rheolau Covid-19, dywedodd Mr Gething ei fod yn "rhwystredig iawn" gyda'r bobl hynny.

Dywedodd na ddylai pobl fod yn mynd ar "daith hanner awr i le hardd" am dro.

"Ni allaf orbwysleisio fy rhwystredigaeth wrth weld lluniau o bobl sy'n gwybod eu bod yn gwneud y peth anghywir ond maen nhw'n ei wneud beth bynnag," meddai.

Dywedodd Mr Gething fod cosbau am dorri'r rheolau, ond nad oes bwriad hyd yma i gyflwyno rhai llymach.