'Oedi sylweddol' i gael brechiad Covid yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bu rhai pobl yn disgwyl am hyd at dair awr am eu brechiad
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhai pobl yn disgwyl am hyd at dair awr am eu brechiad

Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi ymddiheuro am "oedi sylweddol" yn eu canolfan frechu coronafeirws yn Llandudno ddydd Mercher.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai hyfforddi "brechwyr newydd" arweiniodd at yr oedi.

Cafodd BBC Cymru wybod bod pobl wedi bod yn ciwio am hyd at dair awr yn y ganolfan yn Ysbyty Enfys Llandudno.

Dywed y cynghorydd Carol Marubbi bod y sefyllfa yn gywilyddus.

Dywedodd Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal Ganolog y bwrdd, fod y cyfan yn rhan o "ehangu ein rhaglen" ar gyfer brechu'r boblogaeth.

Dywedodd Ms Jones hefyd bod nifer o bobl wedi cyrraedd am eu hapwyntiadau yn gynnar, a bod hynny wedi arwain at rai pobl yn gorfod disgwyl yn hirach.

"Rydym yn ymwybodol bod oedi sylweddol wedi bod yn ein canolfan frechu torfol yn Ysbyty Enfys Llandudno heddiw," meddai.

"Rydym yn ymddiheuro i bawb sydd wedi gorfod disgwyl yn hir am eu brechiad.

"Roedd nifer o frechwyr newydd wedi cyrraedd y safle er mwyn i ni fedru ehangu ein rhaglen, ac roedd angen hyfforddi'r unigolion yma cyn eu bod yn medru dechrau brechu pobl.

"Hefyd fe wnaeth nifer o bobl oedd i fod gael brechid gyrraedd y ganolfan dipyn cyn amser eu hapwyntiadau, gan arwain at nifer o bobl yn gorfod disgwyl yn hirach.

"Felly, rydym yn atgoffa pawb sydd wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer brechiad i gyrraedd ar yr amser sydd wedi ei bennu iddyn nhw, ac nid cyn hynny.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau fod pawb yn cael eu gweld o fewn amser priodol."

'Pobl yn gadael y ciw'

Dywedodd un o'r rhai a oedd wedi bod yn ciwio am dair awr wrth BBC Cymru fod "ychydig gannoedd da" yn y ciw.

"Mae angen iddyn nhw ei gwneud hi'n fwy eglur pa mor hir roedden nhw'n mynd i fod yno," meddai'r person, nad oedd am gael ei enwi.

"Roedd y wybodaeth yn dweud i beidio â chyrraedd yn gynnar a pheidio â chyrraedd yn hwyr a gwisgo dillad priodol fel y gallwch godi'ch llawes i fyny a chael eich pigo. Es i mewn jîns crys-t a hwdi ac roeddwn i wedi rhewi.

"Fe wnaethon ni gerdded o amgylch yr adeilad ac mae maes parcio mawr yn y cefn ac roedd 'na neidr hir o bobl, ychydig gannoedd da."

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Venue Cymru cyn 20:00 nos Fercher

Ychwanegodd: "Dywedais wrth stiward fod gen i apwyntiad, ble ydw i'n mynd i mewn, a dywedodd fod yn rhaid i mi fynd i gefn y ciw.

"Roedd yna bobl oedrannus yno, roedd yn amlwg bod pobl fregus, roedd yn rhaid dod â chadeiriau olwyn i gwpl o bobl oherwydd ei bod mor oer. Doedden nhw ddim wedi gwisgo amdani, roedd yn 2 radd.

"Mae'n anghredadwy. Roedd yna bobl yn troi i ffwrdd, yn gadael y ciw."

'Cywilyddus'

Dywedodd Carol Marubbi sy'n gynghorydd lleol ac yn gadeirydd grŵp sy'n gweithredu i gadw gwasanaethau yn Ysbyty Llandudno bod yr hyn sydd wedi digwydd yn gywilyddus.

"Maent wedi gael digon o amser i hyfforddi ac wrth i bobl mwyaf bregus ein cymdeithas ddisgwyl am haul ar fryn, fel hyn ry'n yn eu trin. Dwi'n cywilyddio'n fawr.

"Dwi ddim am ladd ar y Gwasanaeth Iechyd ond mae'r cyfan yn ymwneud â rheoli - sy'n allweddol. Fydden i wedi disgwyl y byddai hyfforddi wedi dechrau digwydd dri mis yn ôl.

"Mae'r tymheredd yn Llandudno yn un radd ar y funud. C'mon Betsi, mae angen cael trefn ar yr hyfforddiant a brechu'r bobl - dyna'r cyfan mae nhw eisiau."