'Gall economi Cymru elwa wrth i gwmnïau adael Llundain'
- Cyhoeddwyd
Bydd economi Cymru'n elwa'n "sylweddol" wrth i fwy o fusnesau ddewis symud o Lundain yn sgîl y pandemig, yn ôl arbenigwr o'r diwydiant.
Mae Guillaume Vergnaud yn credu'n gryf y bydd cwmnïau technoleg yn symud o Lundain yn union fel y gwnaethant o Silicon Valley yn yr Unol Daleithiau.
Gyda phrifysgolion a gweithlu medrus, mae dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe yn berffaith ar gyfer cwmnïau oedd yn chwilio am ddewis arall, meddai.
Ond dywedodd y gallai'r "chwyldro" gymryd rhai blynyddoedd i ddigwydd.
Dianc rhenti uchel
Dywedodd Mr Vergnaud - pennaeth cwmni New Horizons Global Partners, arbenigwyr ar allanoli (outsourcing) - fod rhenti isel a chysylltiadau cyflym â Lloegr yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau oedd am ddianc oddi wrth rhenti uchel Llundain.
"Hyd yma, mae Cymru wedi cael ei tharo'n arbennig o galed yn economaidd gan gyfnodau clo Covid-19," meddai.
"Mae hyn - yn ogystal â hanes o swyddi lleol yn cael eu symud dramor - yn golygu bod sensitifrwydd yng Nghymru i unrhyw fath o ehangu byd-eang, ac mae hynny'n ddealladwy.
"Yn yr amgylchedd newydd o weithio o bell, rydym yn gweld busnesau yn meddwl, nid yn unig am eu hamcanion rhyngwladol, ond hefyd am sut maent yn dosbarthu eu staff yn fewnol.
"Yn union fel sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau lle mae busnesau'n lleihau eu presenoldeb yn Silicon Valley, rydym yn disgwyl gweld staff yn cael eu symud o dde-ddwyrain y DU.
"Mae hyn yn debygol o fod o fudd enfawr i ddinasoedd cryf, canolig eu maint, gyda gweithlu dichonol sylweddol a dysgedig."
Ychwanegodd: "Mae galw o hyd am ofod swyddfa, ond mi fyddai busnesau yn y DU yn hoffi osgoi rhenti masnachol niweidiol Llundain.
"Mae nifer o fusnesau'n dal i ddisgwyl diwedd y pandemig a'r ansicrwydd parhaus am Brexit cyn gwneud eu cynlluniau tymor hir. Ond gallwn ddisgwyl gweld newidiadau'n digwydd o fewn y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Mr Vergnaud nad oedd y cyfnodau clo a orfodwyd arnom oherwydd y pandemig wedi gwneud fawr ddim i atal cwmnïau rhag allanoli dramor.
Mae ei gwmni'n helpu busnesau i redeg eu mentrau tramor, a dywedodd fod y symudiad tuag at weithio o bell yn golygu fod busnesau'n fwy amheus o'r angen am ofod swyddfa costus yn y DU.
A thra bydd rhai yn dewis symud dramor, dywedodd y byddai 'na wastad alw am bresenoldeb yn y DU.
Wrth i'r dosbarth canol barhau i dyfu yn Asia, mae'n credu hefyd y bydd digonedd o gyfleon i gwmnïau Cymreig fodloni eu chwant am gynnyrch a gwasanaethau e-fasnach.
"Er enghraifft, mae gan Gymru enw da ar draws y byd am ei gallu blaengar mewn gwneud nwyddau," meddai.
"Mae mwy o alw gan ddefnyddwyr yn y diwydiant teithio a thrafnidiaeth yn Asia yn creu cyfleon ar gyfer cwmnïau arbenigol yn y diwydiant awyrennau a moduro yng Nghymru."
Roedd allanoli'n gweithio'r ddwy ffordd, meddai, a gallai cwmnïau o Asia fuddsoddi yng Nghymru wrth geisio cael troed i mewn yn y DU.
"Mae sawl menter yn ardal Asia a'r Môr Tawel yn gweld y DU fel lle dymunol i ymestyn," meddai.
'Mynediad i dalent'
Mae'r Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru - arbenigwr ar entrepreneuriaeth a busnes - yn cytuno.
"Gall de Cymru yn sicr elwa, nid yn unig drwy allanoli staff ond hefyd wrth i gwmnïau adleoli o Lundain a de-ddwyrain Lloegr," meddai.
Gyda sector dechnoleg ffyniannus, prifysgolion cryf a buddsoddi strategol, roedd gwir obaith o ddenu cwmnïau mawr a busnesau entrepreneuraidd a fyddai'n elwa o gostau is a mynediad i dalent, meddai.
Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Brian Meechan
Mae rhenti masnachol yn costio tua thraean yn llai yng Nghaerdydd nag yn Ninas Llundain.
Hefyd, mae gan dde Cymru nifer o brifysgolion sy'n darparu ffynhonnell reolaidd o weithwyr medrus.
Roedd amser teithio cymharol fyr rhwng Cymru a Llundain hefyd yn bwynt gwerthu ffafriol cyn y pandemig.
Dyma'r rhesymau pam y penderfynodd rhai cwmnïau ariannol a gwasanaethau proffesiynol mawr agor swyddfeydd yma.
Ond mae dinasoedd fel Caerdydd mewn cystadleuaeth gyda dinasoedd eraill y DU megis Bryste, Leeds a Glasgow i ddenu busnesau.
Ar hyn o bryd does neb yn gwybod i ba raddau y bydd y newidiadau cyflym y bu'n rhaid i ni wneud i'r ffordd yr ydym yn gweithio yn parhau pan fydd y pandemig drosodd.
Mae'n ymddangos bod defnydd mwy helaeth o dechnoleg a mwy o weithio o bell yma i aros, ond efallai na fyddwn yn cefnu'n llwyr ar swyddfeydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020