Ateb y Galw: Y gantores Gwawr Edwards
- Cyhoeddwyd
Y gantores Gwawr Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Myrddin Owen yr wythnos diwethaf.
Mae Gwawr yn soprano sydd wedi profi llwyddiant mewn eisteddfodau a gwyliau, ynghyd â pherfformio ledled Prydain a'r byd. Mae hi wedi cyflwyno rhaglenni ar S4C a Radio Cymru, ac mae hi'n un traean o'r grŵp Athena.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae'n anodd cofio yn iawn beth yw'r atgof cyntaf! Ond 'weden i taw un ohonyn nhw oedd cerdded i fyny'r hewl gyda fy mamgu (mam Dad) o'r ffarm ble mae fy chwaer yn byw heddi at fferm Mam a Dad.
Mae'n rhaid taw ond rhyw ddwy a hanner/tair oed oeddwn i achos fuodd hi farw ddau fis ar ôl i fi gael fy nhair oed. Felly mae'n neis fy mod yn cofio rhywbeth amdani.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Wel, doeddwn i byth yn un i ffansio neb enwog, jest bois yr ysgol, neu fechgyn ysgol Dyffryn Teifi yn enwedig!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr (ar hyn o bryd) yw bywgraffiad Audrey Hepburn. Dwi wrth fy modd ag unrhyw fywgraffiad a chlywed hanes bywydau pobl. Dwi dal heb ddarllen llyfr Michelle Obama eto, wedi ei brynu ers dwy flynedd, felly dwi'n edrych 'mlaen i ddarllen hwnna nesaf.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le yng Nghymru yw adre! Dwi'n dod o fferm sydd hanner ffordd rhwng Aberaeron a Thregaron, bro rhwng môr a mynydd go iawn.
Dwi, Dan a'r plant yn symyd yn ôl yma o Gaerdydd fis nesaf, felly dwi'n teimlo'n gyffrous iawn. Ni'n ail-wneud hen dŷ ffarm ac mae yna sawl man ar y fferm dwi'n hoffi mynd i 'ddianc' pan dwi eisiau llonydd neu amser i feddwl, ac mae'r plant hefyd wrth eu bodd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n llefain eithaf aml, yn enwedig ers dod yn fam; mae'r pethau lleiaf yn dod a dagrau i'r llygaid. Ond dwi'n credu taw dydd Nadolig, wrth gofio am Mam-gu (mam fy mam).
Roedd wastad gyda ni Nadolig ond fuodd farw dair mlynedd yn ôl yn agos at y Nadolig, a dwi'n gweld ei heisiau'n fawr. Roedd yn chwarae lot fawr gyda Nel fy merch fach, ond dwi'n drist na chafodd Ynyr fy mab erioed gwrdd â hi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Y tro wnaeth godi cywilydd arna i oedd pan es i siopa gyda fy nai pan oedd e'n fach ac yn dechrau potty training, ac oedd e'n mynnu gollwng ei drowsus unrhyw le, ar ochr y stryd o flaen unrhyw siop i wneud pi-pi! (Mae e nawr yn 19 felly dwi'n siŵr fydd e wrth ei fodd 'mod i wedi dweud y stori na!)
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, perffeithydd, angerddol.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yn ôl Dan, dwi'n dwyn y duvet bob nos!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ar fy niwrnod olaf ar y blaned, mi fasen i eisiau gwahodd fy ffrindiau i gyd a chael parti yn Hafod Hir (fy nghartref newydd). Gobeithio taw'r haf base hi. Mi fasen i eisiau barbaciw a digon o hwyl, ac mi fase rhaid gorffen y noson gyda chanu mawr o gwmpas y piano!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
I ateb y cwestiwn, dwi'n berson preifat iawn!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Basen i wrth fy modd yn cael diod gyda sawl person ysbrydoledig. Dwi'n meddwl fase rhywun fel Oprah yn ddiddorol, rhywun sydd wedi cyflawni sut gymaint.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Er ei fod yn swnio ychydig yn cliché noson fy mhriodas oedd y noson orau erioed. Dwi wedi cael sawl noson dda cofiwch, ond roedd noson y briodas yn arbennig. I fod yng nghwmni pawb dwi'n eu caru, yn deulu a ffrindiau, yn dawnsio i fand Rhys Taylor, yna sing-song go iawn o gwmpas y piano tan oriau mân!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Petawn i yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, mi fasen i eisiau bod yn rhywun fel Mozart neu Leonardo da Vinci, i gael gwybod sut deimlad yw hi fod yn athrylith!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Wel hwn yw'r cwestiwn caleta' o'r rhestr! Mae cymaint o 'hoff' ganeuon gen i, fel allech chi ddychmygu! O bob math posib, achos dwi'n dwli ar bob math o gerddoriaeth. Felly os base chi'n gofyn fory, falle buasai'r ateb yn wahanol.
Ond, o ran y gân dwi wrth ei bodd yn ei chanu - O Gymru o waith Rhys Jones, neu wrando arni - Gwinllan gan Caradog Williams, a chôr o ddynion yn ei chanu. Mae'r ddwy gân yn bwerus a chenedlaetholgar iawn.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - oysters. Prif gwrs - casserole ffesant. Pwdin - dessert wine.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Trystan Llŷr Griffiths