Prop Cymru Tomas Francis yn symud i'r Gweilch o Gaerwysg

  • Cyhoeddwyd
Tomas FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomas Francis wedi ymddangos mewn 115 o gemau i Gaerwysg ers ymuno â nhw yn 2014

Mae'r Gweilch wedi cadarnhau bod prop Cymru, Tomas Francis, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda nhw.

Bydd y chwaraewr 28 oed, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i bencampwyr Ewrop, Caerwysg, yn ymuno â rhanbarth Cymru ar gyfer tymor 2021-22.

Mae Francis wedi ennill 52 o gapiau ac roedd angen iddo ddod yn ôl i Gymru i barhau â'i yrfa ryngwladol.

"Bydd arwyddo ar gyfer y Gweilch yn caniatáu imi barhau i chwarae dros Gymru, rhywbeth nad oeddwn yn fodlon ei ildio," meddai Francis.

Mae polisi Cymru yn nodi bod yn rhaid i chwaraewyr sydd â llai na 60 o gapiau chwarae i dîm o Gymru ar ddiwedd eu cytundeb presennol, ac mae cytundeb Francis gyda Chaerwysg yn dod i ben yn ystod haf 2021.

"Roeddwn i'n gwybod y byddai yna amser yn dod pan fyddai'n rhaid i mi wneud penderfyniad ar fy nyfodol," meddai Francis.

"Nid yw wedi bod yn hawdd, mewn gwirionedd, hwn oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud yn fy ngyrfa.

"Rwy'n dal i fod yn uchelgeisiol ac yn awyddus i barhau i wella ac rwy'n gweld y Gweilch yn lle perffaith i wneud hynny."

Mae'r prop a anwyd yn Swydd Efrog yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei nain, sy'n hanu o Abercrâf yn Abertawe, sydd yn rhanbarth y Gweilch.

Gwnaeth Francis ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru ym mis Awst 2015 ac mae wedi bod yn rhan o ddwy ymgyrch yng Nghwpan y Byd a buddugoliaeth y Gamp Lawn 2019.

Roedd yn rhan o garfan Caerwysg a enillodd Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Pencampwyr Ewrop yn 2020.