Cartref gofal yn derbyn brechlyn wedi oedi o wythnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Lorna Jones bod "golau yng nghefn y twnnel" i gartrefi gofal bellach

Mae cartref gofal yng Ngwynedd a brofodd oedi i'w gyflenwad o frechiadau Covid-19 yn dweud bod eu preswylwyr bellach wedi derbyn y brechlyn a bod hynny'n "cynnig gobaith mawr".

Roedd cartref gofal dementia Meddyg Care yng Nghricieth fod i dderbyn eu cyflenwad o frechiadau Oxford/AstraZeneca ddydd Mercher diwethaf, ond ni chyrhaeddon nhw tan wythnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth eu bod wedi profi "problemau logisteg" wrth ddosbarthu'r brechlyn, ond bod hynny bellach wedi ei ddatrys.

Mae'r 40 o breswylwyr rŵan wedi derbyn eu brechlyn ar ôl i feddygfa leol, Meddygfa Penrhyn, roi rhan o'u cyflenwad nhw i'r cartref.

Mae'r cartref gofal yn dweud eu bod nhw'n "hapus dros y teuluoedd".

'Pawb yn diolch'

"Dwi 'di ffonio ambell i deulu heddiw ac mae pawb jest wedi diolch am fod mor garedig," meddai rheolwraig y cartref gofal, Lorna Jones.

"'Da ni'n mynd ymlaen rŵan a gobeithio 'neud pethau yn fwy normal.

"I'r teuluoedd mae'n rhoi gobaith iddyn nhw, gobaith mawr mewn rhyw ychydig allan nhw ddod i mewn ar ôl yr ail frechlyn ond mae 'na olau yng nghefn y twnnel rŵan!"

Ffynhonnell y llun, Kevin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cartref gofal dementia Meddyg Care yng Nghricieth dderbyn eu cyflenwad ddydd Mawrth

Er yr hapusrwydd o dderbyn y brechlyn, mae Ms Jones yn dweud y bydd staff yn parhau i fod ar eu gwyliadwriaeth am beth amser eto.

"'Da ni dal yn gorfod 'neud yn siŵr ein bod ni'n saff a dal i neud y PPE achos mae'n cymryd dros wythnos i'r brechlyn gymryd effaith," meddai.

'Cymryd dipyn o'r baich i ffwrdd'

Ychwanegodd bod derbyn y brechlyn wedi cynnig "diogelwch a sicrwydd" i'r 40 o breswylwyr, ond bydd pwysau yn parhau ar ysgwyddau'r staff am gyfnod eto.

"Mae o wedi ysgafnhau'r ffordd dwi'n teimlo, ond 'da ni'n dal yn gorfod gwneud yn siŵr fod pob dim yn ei le," meddai Ms Jones.

"Ond yn mynd ymlaen mae o'n cymryd dipyn o faich i ffwrdd ohona i.

"Fe allwn ni concentratio ar bethau eraill yn lle bod y preswylwyr yn gweld ni mewn PPE llawn.

"Dydy o ddim yn iawn iddyn nhw [y preswylwyr]. Dydyn nhw ddim yn gweld y wên ar y wyneb a pha mor hapus ydyn ni."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartref Meddyg Care fod i dderbyn eu cyflenwad o frechiadau Oxford/AstraZeneca ddydd Mercher diwethaf

Mae'r cartref gofal rŵan yn disgwyl derbyn ail ddos y brechlyn ar ddiwedd mis Mawrth, a hynny'n cynnig gobaith a goleuni wedi 10 mis anodd iawn.

"Fedrwch chi ddim egluro hynna i neb," meddai Ms Jones.

"Mae'n wych a dwi isio dweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi'n cymdogi ni - y negeseuon dwi wedi'u cael, mae'n wych. Diolch yn fawr!"