Ymdrech gwirfoddolwyr Partneriaeth Ogwen 'yn codi calon'
- Cyhoeddwyd
"Ry'n wedi gweld cymdeithas ar ei gorau yn ystod y pandemig gan ddod at ei gilydd i roi cymorth a bellach mae gennym dros 100 o wirfoddolwyr," medd Huw Davies, un o gydlynwyr Partneriaeth Ogwen.
Ddydd Gwener dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, ei bod am ddiolch i'r llu o wirfoddolwyr cymunedol ledled Cymru sy'n gweithio'n galed i "ofalu amdanoch chi a'ch anwyliaid a'ch cadw'n saff yn y cyfnod anodd iawn hwn".
Ymhlith y sefydliadau mae'n eu rhestru mae Partneriaeth Ogwen - menter gymdeithasol ym Methesda, sydd wedi rhoi ei phrosiectau adfywio i gefnogi'r amgylchedd, y gymuned a'r economi leol i'r neilltu dros dro er mwyn gallu canolbwyntio ar gefnogi'r gymuned leol yn uniongyrchol.
"Mae'r bartneriaeth wedi bod yn cynorthwyo mewn amrywiol ffyrdd yn ystod y pandemig," medd Mr Davies.
"'Dan ni wedi bod yn mynd â bwyd maethlon poeth o gaffi Coed-y-Brenin i bobl hŷn a phobl sydd wedi gorfod hunan-ynysu yn Nyffryn Ogwen.
"I ddechra' roedden ni'n mynd â saith pryd ym mis Tachwedd - a 'dan ni rŵan yn mynd â 40 pryd ac o bosib bydd yn rhaid i ni gael ail ddiwrnod o ddosbarthu. Ar hyn o bryd 'dan ni'n mynd bob dydd Iau.
"Mae'r cyfnod yma wedi creu diddordeb o lle mae'r bwyd yn dod, ond yr hyn sydd wedi bod fwyaf amlwg yw cymaint o bobl sydd isio g'neud petha' i roi cymorth i'w gilydd yn y gymuned - ma' gynnon ni dros 100 o wirfoddolwyr bellach.
"Ydy, mae cymdeithas wedi bod ar ei gorau yn ystod y cyfnod hwn - mae pobl yn fodlon iawn i roi cymorth i'w gilydd."
'Gwahaniaeth enfawr i ni gyd'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt: "Mae wedi cynhesu fy nghalon i glywed am yr holl ffyrdd y mae cymunedau wedi tynnu ynghyd ym mhob cwr o Gymru, drwy gydol pandemig Covid-19, i ddiogelu a helpu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed.
"Mae'r rheolau aros gartref yn anodd i bawb, ond maen nhw yno i arafu lledaeniad y feirws a'n cadw ni i gyd yn saff, diogelu'r GIG ac achub bywydau."
"Rydyn ni'n parhau i wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae nifer yr achosion yng Nghymru yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol, ond mae grwpiau cymunedol ac elusennau yn dal i ofalu am bobl sy'n yn hunan ynysu, neu bobl y mae angen cymorth arnyn nhw.
"Dw i am ddweud diolch i'r holl wirfoddolwyr cymunedol sy'n gweithio mor galed, a dweud bod yna gymorth ar gael ichi yn lleol os oes ei angen arnoch chi. Mae yna bobl all eich helpu drwy ddod â bwyd a phresgripsiynau ichi, neu eich ffonio'n rheolaidd am sgwrs.
"Os hoffech helpu yn eich cymdogaeth leol, neu os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â'ch cyngor gwirfoddol sirol lleol - fe allan nhw eich rhoi mewn cysylltiad â phobl sy'n gweithio yn eich cymuned.
"Fy neges i i chi yw: daliwch ati i helpu a chefnogi eich cymunedau tra'n aros gartref. Mae gwybod bod yna bobl sydd â gofal amdanom yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ni gyd."
'Cymryd pwysau oddi ar y GIG'
Ychwanegodd Ruth Marks, prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: "Mae'r Flwyddyn Newydd yn dod â gobaith newydd, wrth i'r broses o frechu yn erbyn Covid-19 gyflymu.
"Fodd bynnag, yn ystod wythnosau cyntaf 2021 rydyn ni hefyd wedi gweld y nifer uchaf o achosion ers dechrau'r pandemig.
"Dyw hi erioed wedi bod yn fwy pwysig inni i gyd aros gartref, felly, a chyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol lle bynnag y bo'n bosibl.
"Drwy gydol y pandemig, mae cymunedau, gwirfoddolwyr ac elusennau wedi bod yn cefnogi pobl i ynysu'n ddiogel a chadw mewn cysylltiad ag eraill.
"Mae'r ymdrechion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac yn cymryd pwysau oddi ar y GIG drwy'r cyfnod anodd hwn, sy'n deyrnged aruthrol i'r ysbryd cymunedol yma yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020