Rhai ymgeiswyr Ceidwadol o blaid diddymu'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae tri o'r pedwar ymgeisydd Ceidwadol sydd wedi eu dewis ar restr ranbarthol y blaid ar gyfer ymladd sedd Canol De Cymru o blaid diddymu Senedd Cymru.
Mae Joel James, Callum Davies a Chris Thorne wedi eu dewis ar gyfer safleoedd rhif dau, tri a phedwar ar restr y Ceidwadwyr, gan gyflwyno llythyrau cais oedd yn amlygu eu safiad gwrth-ddatganoli.
Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sydd wedi ei ddewis yn y prif safle. Yn ôl un ffynhonnell o'r blaid doedd ei gais ef ddim yn un o blaid diddymu.
Ond ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, fod polisi ei blaid yn glir "ry'n ni ishe gwneud datganoli i weithio dros bobl Cymru."
Ym mis Rhagfyr, fel rhan o broses o lunio rhestr fer, fe ofnwyd tri chwestiwn i'r ymgeiswyr, gan gynnwys sut y byddant yn pleidleisio mewn refferendwm i ddiddymu'r Senedd.
Ar y pryd dywedodd David Melding, AS Ceidwadol arall Canol De Cymru, nad oedd ef yn credu y dylai'r blaid fod wedi caniatáu'r fath gwestiwn.
Ym mis Chwefror y llynedd cyhoeddodd Mr Melding, sydd wedi cynrychioli Canol De Cymru ers 1999, na fyddai'n sefyll eto.
Dywedodd un ffynhonnell o'r blaid fod y cwestiwn yn un gafodd ei ddewis ar hap, ond yn ôl ffynhonnell arall roedd yn dangos tuedd hanesyddol sydd yna am ddiddymu.
Cafodd wyth o ymgeiswyr eu dewis ar gyfer y rhestr fer.
'Dyletswydd'
Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill dwy o'r pedair sedd sydd ar gael yn rhanbarth Canol De Cymru ym mhob etholiad ers 1999.
Joel James o Lanilltud Faerdre yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi ei ddewis ar gyfer safle rhif dau y Ceidwadwyr.
Yn ei lythyr cais dywedodd y cynghorydd James: "Fel Ceidwadwyr Cymreig, ai nid yw'n ddyletswydd arnom i ddweud ar ôl ugain mlynedd o ddatganoli, mae wedi methu a digon yw digon."
Ond yn ôl Paul Davies polisi ei blaid yw i wneud i ddatganoli weithio.
"Dim datganoli sydd wedi methu pobl Cymru, y blaid Lafur sydd wedi methu pobl Cymru, a fy neges i i bawb yw, dewch i ni gal gweithio gyda'n gilydd i ddiddymu'r Llywodraeth Lafur."
Ar ei dudalen Facebook dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig Glyn Davies nad oedd y cyfrif ar gyfer y seddi rhanbarthol eraill wedi mynd yn ôl y disgwyl ddydd Gwener, gyda llai na hanner yr ymgeiswyr wedi eu dewis.
Dywedodd Mr Davies y byddai'r cyfri ar gyfer seddi rhanbarthol Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru a Gogledd Cymru yn cael eu gohirio tan ddydd Llun.
Cafodd dirprwy gadeirydd y blaid Tomos Dafydd ei ethol fel y prif ymgeisydd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda Amanda Jenner yn cael ei dewis yn yr ail safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020