Brechlyn: Blaenoriaethu meddygfeydd wedi'r oedi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ralph Evans receives vaccine in Merthyr Tydfil
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd rhoi'r brechlyn Oxford-AstraZeneca mewn meddygfeydd

Fe fydd meddygfeydd sydd wedi eu heffeithio gan yr oedi wrth dderbyn cyflenwdau'r brechlyn Oxford-AstraZeneca yn cael blaenoriaeth pan ddaw'r cyflenwadau nesaf.

Ddydd Sadwrn daeth i'r amlwg fod yna broblemau gyda chyflenwad 26,000 dos o'r brechlyn ar gyfer Cymru.

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd rhaglen brechu Covid-19 Cymru, fod y digwyddiad yn "siom fawr i feddygon teulu" ond yn "broblem dros dro."

Ond ychwanegodd Dr Richardson fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael gymaint o gyflenwadau "ag y mae modd ymdopi ag ef."

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi cynghori meddygon teulu yn y gogledd "ei bod yn bosib y byddant am oedi apwyntiadau yn gynnar yn yr wythnos nesa."

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r byrddau iechyd eraill yng Nghymru i ofyn a yw apwyntiadau brechu wedi eu heffeithio.

Hyd yn hyn does dim rhagor o fanylion wedi dod i law.

'Cur pen'

Dywedodd Dr Richardson wrth BBC Cymru: "Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y meddygon teulu yna yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y cyflenwad nesaf sy'n cyrraedd.

"Mae'n rhoi cur pen o safbwynt y rhaglen, a chur pen yn lleol i'r byrddau iechyd a siom fawr i feddygon teulu...ond gallwn ond gwneud yr hyn a beth rydym wedi ei dderbyn."

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU ddydd Gwener roedd 126,375 o bobl yng Nghymru - 4% o'r boblogaeth - wedi cael eu pigiad cyntaf.

Yn ôl strategaeth brechu Llywodraeth Cymru fe fydd pawb wedi cael cynnig brechlyn erbyn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 126,375 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu pigiad cyntaf

Dywedodd Dr Richardson fod y corff sy'n rheoli meddyginiaethau - yr MHRA - wedi gwrthod y cyflenwad o 26,000 dos fel rhan o'u proses o asesu ac adolygu.

Ychwanegodd fod y gwasanaeth iechyd yma yn derbyn gymaint o frechlynnau ag y mae modd ymdopi ag ef.

Mae Cymru wedi derbyn tua 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer/BioNTech a tua 50,000 dos o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Mae cadeirydd y gymdeithas sy'n cynrychioli meddygon teulu yng Nghymru wedi cefnogi'r alwad i oedi apwyntiadau.

Yn ôl Dr Phil White mae'r rhybudd yn rhoi cyfle i feddygfeydd gynllunio'n briodol.

Dywedodd nad oedd gwrthod cyflenwad yn ddigynsail gan fod yr un peth wedi digwydd gyda brechlyn ffliw yn 2019.

"Mae'n anghyfleus iawn, a bydd yn golygu canslo rhai apwyntiadau, ond gobeithio y gallwn ddal fyny unwaith y daw rhagor o gyflenwadau."