'Cynnydd mewn galwadau twyll am frechlyn Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Person holding bank card and phoneFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cwynion ynglŷn â sgamiau brechlyn Covid-19 wedi cynyddu deirgwaith drosodd ers dechrau'r pandemig, yn ôl gwasanaeth cynghori.

Er gwaetha'r ffaith fod hyn yn gyfnod sy'n achosi llawer o bryder, mae'n ymddangos bod rhai pobl yn manteisio ar yr amgylchiadau i dwyllo eraill.

Mae 'na achosion wedi bod o bobl yn cynnig brechlyn coronafeirws am dâl - a hynny er na fyddai'r gwasanaeth iechyd fyth yn gofyn i bobl dalu.

Dywedodd Rob Palmizi o Gyngor ar Bopeth bod cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysylltu ynglŷn â sgamiau.

"'Dan ni 'di gweld rhai yn dod trwodd yn deud.... gewch chi fynd yn breifat i gael y vaccination yma.... os 'dach chi'n rhoi eich bank details mi wnawn ni'n siŵr eich bod chi fyny'r ciw a phethau fel 'na," meddai Mr Palmizi, swyddog materion cyhoeddus.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rob Palmizi bod cynnydd yn nifer y bobl yn cysylltu ynglŷn â sgamiau yn ymwneud â Covid-19

"Mae pobl yn hongian eu gobeithion arno fo... a dyna sut mae o'n gweithio.... a fydd yr NHS fyth yn gofyn am eich manylion banc... felly os ydyn nhw'n gofyn am bres... peidiwch â neud o," meddai.

"Y peth i edrych allan amdano... oes 'na mistakes sillafu? Mor syml â hynny... ydy'r rhif ffôn yr un rhif ffôn ac sydd ar y wefan lle maen nhw'n deud maen nhw'n dod o?"

Nid cynnig brechlyn am bres ydy'r unig fath o dwyll sydd wedi bod.

Mae dirwyon ffug wedi eu codi am dorri rheolau Covid - a chynigion hefyd i gael gwared ar y coronafeirws drwy lanhau'r tŷ.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Iwan mae angen sicrhau nad yw sgamiau'n cymryd mantais o bobl oedrannus

Ers dechrau'r pandemig, mae dros hanner miliwn o bobl wedi cysylltu â gwefan Cyngor ar Bopeth ar gyfer cwynion, cynnydd o 181% ar y flwyddyn gynt.

Mae'n achos gofid i Dafydd Iwan, Cadeirydd Age Cymru yng Ngwynedd a Môn, er nad ydy o wedi clywed am lawer o achosion o dwyllo yn yr ardal honno.

"Mae'n rhaid i ni gofio bod yr henoed dan bob math o bwysau'r dyddiau yma, a phwysau unigrwydd yn aml iawn iawn," meddai.

"Ac os ydyn nhw'n teimlo fel hyn bod nhw'n cael eu defnyddio gan bobl anonest yna mae hynny'n cynyddu'r ansicrwydd, yn cynyddu'r teimlad o unigrwydd, felly ein neges ni yn Age Cymru ydy peidiwch â bod ar eich pen eich hun.

"Rhowch wybod i ni, rhowch wybod i Action Fraud, rhowch wybod i'r heddlu os ydach chi'n teimlo bod pobl yn cymryd mantais."

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething eisoes wedi pwysleisio na fydd neb yn gorfod talu am frechiad gan y Gwasanaeth Iechyd.

Pynciau cysylltiedig