Beth am i ni drafod tinitws?
- Cyhoeddwyd
"Mae gen i sŵn fel rhyw drôn isel ac mae ochr fy mhen i'n dirgrynu - mae'n annifyr iawn."
Mae tua un ym mhob wyth o bobl yn y DU yn byw gyda'r cyflwr tinitws, yn ôl Cymdeithas Tinitws Prydain (BTA).
Y cyfieithiad Cymraeg o 'tinnitus', yn ôl Geiriadur yr Academi, ydy "cloch fach" neu "canu [yn y glust]".
Ond mae'r symptomau, neu'r sŵn, yn amrywio o berson i berson.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn ei ddiffinio fel sŵn yn y glust neu'r clustiau, neu 'yn y pen', "pan nad oes unrhyw ffynhonnell o sŵn yn amlwg".
Mae'r synau fel arfer yn cael eu disgrifio fel canu, chwibanu, hisian, neu fwmian.
Dywed y BTA fod cyflwr bron i hanner y rhai sy'n dioddef wedi gwaethygu yn sgil y pandemig coronafeirws.
Un o'r rheiny ydy Elen Elis o Lanfairpwll yn Ynys Môn, sydd wedi bod yn byw gyda tinitws ers tua 10 mlynedd.
"Dwi'm yn hollol siŵr ond dwi'n meddwl gesh i tinitws ar ôl cael concussion ar ôl hitio 'mhen yn chwara' hoci," meddai Elen.
"Dwi'n cofio'r noson gynta', o'n i methu cysgu, o'n i'n meddwl bod 'na lori tu allan yn cau symud oherwydd mae gen i sŵn fel rhyw drôn isel ac mae ochr fy mhen i'n dirgrynu - mae'n annifyr iawn.
"Wrth gwrs ar ôl cyfnod doedd y lori ddim yn mynd ac o'n i'n meddwl [hefyd] bod 'na ryw generadur ar y wal drws nesa.
"Ond nes i sylweddoli wedyn na yn fy mhen i o'dd o, ac felly oedd rhaid i fi feddwl wedyn sut i ddygymod â'r peth."
Mae Elen wedi rhoi cynnig ar sawl peth i geisio lleddfu'r sŵn - o gerddoriaeth heb ganu, i arogl lafant ar ei chlustog yn y gwely.
"Os dwi'n rhoi fy mys bach yn fy nghlust i dwi mewn ffordd yn gallu'i dawelu fo dipyn bach," meddai.
"Ond wrth gwrs dydy rhywun methu mynd rownd efo bys yn ei clust na cysgu chwaith - er dwi 'di trio nifer o weithia'.
"Dwi'n cofio siarad efo arbenigwr a ddy'dodd o os ti'n prynu tŷ wrth gorsaf drenau a ti'n rhoi dy ddwylo ar dy glustia', bob tro ma' trên yn pasio nei di ddim arfer - a mae o 'run peth yn fan hyn.
"Mae o'n gallu bod yn annioddefol. Weithiau mae o'n tawelu am gyfnod, dwi'm yn gwybod pam, ond ddoith o'n ôl.
"Ond mae o'n gallu bod yn annioddefol a cas iawn, ac mae o'n anghymdeithasol hefyd.
"Efo to isel mae o'n swnllyd iawn a mae o'n ormod o sŵn i fi a dwi'n cofio gorfod gadael pan oeddan ni i gyd allan am fwyd unwaith, oedd o'n rhy swnllyd i fi a felly dwi'n osgoi ambell i sefyllfa felly i fod yn onest."
Dywed gwaith ymchwil gan y BTA fod y pandemig wedi gwaethygu'r symptomau ymysg 46% o'r bobl sy'n dioddef gyda tinitws yn y DU.
"Mae pethau'n ansicr ac yn newydd ac yn anarferol felly ma' un fi yn waeth yn sicr," meddai Elen.
"Dydy Dad ddim yn dda iawn felly ma' gan rhywun eu petha' personol eu hunain, a gwaith, sy'n heriol ar brydiau.
"Ac wrth gwrs os dwi'n gweithio o adra fan hyn rŵan o flaen y cyfrifiadur am gyfnoda' hir, ma' rhywun yn dueddol o glywed y tinitws yn ystod y dydd.
"Dwi'n gwybod bod rhai pobl yn diodda' efo clustffona' yn gweithio o adra."
Heriau penodol yn y byd cerdd
Bellach yn drefnydd a phennaeth artistig yr Eisteddfod Genedlaethol, mae gan Elen gefndir yn y byd cerddorol.
Bu'n gweithio fel rheolwr corws i Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham am wyth mlynedd, ac mae ganddi hefyd brofiad fel cantores, rheolwr ac asiant proffesiynol.
Mae hi'n teimlo efallai bod pobl o fewn y diwydiant yn ei gweld hi'n anodd cydnabod y cyflwr.
"Dy'dwch bod eich gyrfa chi yn y maes cerddorol a bo' chi'n gerddor llawrydd, falle'ch bod chi'n teimlo os na'i sôn am fy mhroblem i efo rhywun, falle ga'i ddim gymaint o swyddi â 'swn i'n cael os fyswn i ddim yn sôn - felly ma' hynny ynddi.
"Dwi'n gw'bod am bobl sy wedi trio delio efo'r peth ac eraill ella sy'n trio cuddio fo am nad ydyn nhw isio iddo fo effeithio eu swydd nhw."
Ond pwysleisiodd bod siarad yn agored am y peth yn bwysig.
"Alla i ddeall pam bod pobl yn gyndyn i siarad am tinitws. Mae'n effeithio pawb yn wahanol," meddai.
"Mae yn hollbwysig fod pobl yn siarad am y peth. Mae 'na lefydd allan yna i bobl sgwrsio. I'r rheiny sydd ddim yn hyderus i 'neud, mae'n bwysig gwneud. Mae 'na sefydliadau allan yna sy'n rhoi cymorth.
"Yn sicr ar y dechra' fyswn i wedi gwerthfawrogi mwy o gymorth ond nes i neud yr ymchwil fy hun fel petai.
"Dwi 'di bod i weld arbenigwyr yn Lloegr ac yng Nghymru bellach efo 'nghlust i ac i fod yn onest does gynnon nhw ddim lot i gynnig ar hyn o bryd. Felly dygymod efo'r peth ydy'r peth gora' ar hyn o bryd, a ffeindio be' sy'n gweithio i chi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2016