Teyrnged i gerddwr fu farw wedi gwrthdrawiad ffordd

  • Cyhoeddwyd
Jamie OwenFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Aberdâr dros y penwythnos.

Roedd Jamie Owen yn 43 oed ac o ardal Llangatwg, yng Nghastell-nedd.

Bu farw ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit du ar yr A4059 yn Aberdâr nos Sadwrn, 16 Ionawr.

Cafodd gyrrwr y fan, dyn 30 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal ond mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae teulu Mr Owen wedi diolch i'r gweithwyr brys "a weithiodd mor galed i'w helpu" yn syth wedi'r gwrthdrawiad.

'Uchel ei barch'

Roedd yn "fab, tad a brawd serchus y bydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei nabod", dywed eu datganiad.

"Rydym fel teulu'n cael cysur o glywed pa mor uchel ei barch oedd e gan gymaint o bobl.

"Cofiwn yn annwyl y blynyddoedd lu y gweithiodd i gwmni cynnal a chadw lleol yng Nghastell-nedd ac roedd yn cael ei ystyried yn aelod gwerthfawr a mawr ei barch o'r tîm.

"Roedd yn caru bod allan yn gweithio o fewn y gymuned a chyfarfod pobl oedd yn mynd â'i bryd."

Roedd y fan yn teithio i gyfeiriad y de ar yr A4059 - rhwng cylchfannau Trecynon a Robertstown pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad oddeutu 22:50.

Mae'r heddlu'n dal yn apelio am wybodaeth neu luniau dash cam wrth barhau i gasglu tystiolaeth o'r cyfnod cyn y gwrthdrawiad.