Disgyblion yn aros am fanylion trefn asesu graddau eleni
- Cyhoeddwyd
Fe fydd disgyblion TGAU a Safon Uwch yn clywed sut fydd eu graddau'n cael eu penderfynu yn ddiweddarach, ar ôl newid i'r drefn am yr eildro.
Cafodd asesiadau oedd i fod i ddechrau ar ddiwedd Chwefror eu canslo pan gyhoeddwyd y gallai ysgolion aros ar gau tan ar ôl hanner tymor.
Roedd yr asesiadau yn rhan o drefn gafodd ei sefydlu ar ôl y penderfyniad i beidio cynnal arholiadau traddodiadol yn yr haf.
Mae rhai disgyblion yn dadlau y dylai graddau gael eu hamcangyfrif gan athrawon, fel ddigwyddodd llynedd.
Ailystyried y drefn
Er i rai asesiadau gael eu canslo, mae profion allanol, wedi'u gosod a'u marcio gan y bwrdd arholi, dal yn mynd ymlaen ar hyn o bryd yn nhymor yr haf.
Cafodd trefn yn seiliedig ar asesiadau ei lunio wedi'r penderfyniad ym mis Tachwedd i ganslo arholiadau'r haf.
Ond nawr mae grŵp o arweinwyr ysgolion a cholegau wedi bod yn ailystyried y drefn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai dysgu yn digwydd ar lein tan Ionawr 29, a hynny'n debygol o barhau tan ar ôl hanner tymor Chwefror.
Mae un myfyriwr Safon Uwch wedi dechrau ymgyrch i gael gwared ar unrhyw asesiadau ffurfiol yng Nghymru eleni ac mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud y dylai graddau gael eu hamcangyfrif gan athrawon.
Yn Lloegr, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Gavin Williamson y byddai graddau'n cael eu penderfynu gan ysgolion a cholegau ond o bosib byddai arholiadau bach yn cael eu cynnal i helpu athrawon gyda'u hasesiadau.
Mae Betsy sy'n 16 ac yn ddisgybl TGAU yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd wedi ffeindio'r cyfnod diweddar yn "heriol iawn" er mae hi'n teimlo eu bod wedi cael y profiad gorau posib o ddysgu ar-lein.
Serch hynny mae yna ansicrwydd am beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn bwysig yma yn ei haddysg.
"Dwi'n ymddiried yn yr athrawon i benderfynu ein graddau," meddai.
"Dy'n ni ddim wedi cael yr addysg oedden ni i fod i gael dros y flwyddyn diwetha'. Fi'n meddwl bydde fe'n annheg mynd mewn i arholiad ac anghofio pethau, ddim yn gwybod pethau'n glir iawn ac felly os ydych chi'n cael y gradd rydych chi'n haeddu oherwydd y gwersi byw yna dwi'n meddwl bydd hynna'n fwy teg."
Disgybl chweched dosbarth yw Carys, 17, sy'n astudio tri phwnc Safon Uwch ac mae hi'n gweld anghysondeb yn y profiad mae disgyblion yn cael ar draws Cymru yn broblem.
"Rwy'n ddryslyd iawn i fod yn onest. Cafon ni'n taro gyda'r penawdau ar y newyddion bod arholiadau'n cael eu canslo ond dyddiau ar ôl hynny darganfyddon ni ein bod ni'n derbyn asesiadau allanol."
"Roedd e'n gadael fi a fy ffrindiau wedi drysu am beth oedd y gwahaniaeth rhawng asesiadau a arholiadau. Mae'r ansicrwydd yn achosi pryder i ni," meddai
"Dy ni ddim yn gwybod yn iawn beth y'n ni'n anelu tuag at".
Ddydd Gwener dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams mai ei phrif ffocws oedd "sicrhau bod ein dull yn cefnogi lles a dilyniant dysgwyr".
Dywedodd y byddai'n trafod gyda'r bwrdd arholi CBAC a Cymwysterau Cymru gan rhoi rhagor o fanylion brynhawn Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021