Arian i wneud pont gludo Casnewydd yn atyniad
- Cyhoeddwyd
Mae pont gludo Casnewydd wedi cael £8.75m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer gwaith atgyweirio a chreu canolfan ymwelwyr newydd.
Y bont yng Nghasnewydd, a gafodd ei hagor yn 1906, yw un o'r pontydd cludo olaf yn y byd sy'n parhau i gael ei defnyddio.
Dywed y Gronfa Loteri bod ei rhychwant mawr yn unigryw ac nad oes un tebyg ar ôl yn y byd.
Bydd yr arian yn sicrhau bod ymwelwyr yn gallu teithio mewn gondola ar draws afon Wysg neu deithio ar hyd llwybr cerdded sy'n 180 troedfedd o uchder (55m).
'Eicon'
Dywed cyfarwyddwr y Gronfa Loteri y bydd yr arian - eu trydydd buddsoddiad mwyaf yng Nghymru - yn "creu elfen o falchder yn nhreftadaeth unigryw Casnewydd".
Dywedodd arweinydd cyngor y ddinas, Jane Mudd bod y "bont gludo yn eicon ac mae'n rhan allweddol o hanes diwydiannol Cymru ac felly mae'n bwysig ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn gallu creu gwaith a chyfleon gwirfoddoli ac yn y pen draw yn dod â budd economaidd i'r ddinas," meddai.
Beth yw pont gludo?
Mae Pont Gludo Casnewydd yn un o chwe phont debyg yn y byd sy'n dal i weithredu - cafodd y gyntaf ei chodi yn 1893 yn Portugalete ger Bilbao yn Sbaen;
Adeiladwyd y bont i alluogi gweithwyr i deithio o ochr orllewinol Afon Wysg i'w gwaith yn y dwyrain. Fe gymerodd le llong fferi, a oedd yn annibynadwy oherwydd ystod y llanw uchel yng Nghasnewydd;
Fferi ar grog yw'r bont gludo sy'n gallu gweithredu'n fwy effeithlon na fferi gonfensiynol;
Mae trawst uchel sy'n caniatáu i longau fynd oddi tano yn hongian o dyrrau ar bob pen;
Ar y trawst mae trac rheilffordd y mae cerbyd yn symud ar ei hyd;
Mae hirgwch neu blatfform yn hongian o'r cerbyd a gellir ei dynnu o un ochr i'r afon i'r llall drwy gyfrwng cebl cludo.
Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn arddangos hanes cymdeithasol y bont yng Nghasnewydd ac yn cyfeirio at ffeithiau daearyddol am afon Wysg.
Fe fydd yn cynnwys toiledau, siop ac oriel.
Bydd y gwaith atgyweirio yn cynnwys gwaith ar y gondola, adfer nodweddion pensaernïol a phaentio.
Cafodd y bont ei chynllunio gan y peiriannydd o Ffrainc, Ferdinand Arnodin, a dim ond hon ac un bont gludo arall yn y DU sy'n parhau i fod yn weithredol.
Roedd hi'n galluogi gweithwyr i groesi o'u cartrefi ar lan orllewin yr Afon Wysg i waith dur Lysaght ar yr ochr ddwyreiniol a hynny heb amharu ar longau a oedd yn hwylio i'r dociau.
Ar hyn o bryd mae'r bont yn denu rhwng 16,000 a 20,000 o bobl y flwyddyn ond y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd yn dyblu'r nifer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2017