Staff Post Brenhinol yng Nghaernarfon wedi'u heintio
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd ar ran y Post Brenhinol wedi cadarnhau bod naw o bobl sy'n gweithio yn Swyddfa Ddosbarthu Caernarfon wedi cael prawf positif o haint coronafeirws.
Dywedodd hefyd bod nifer yn hunan-ynysu a bod y Post Brenhinol yn dymuno gwellhad buan i'r naw.
Ychwanegodd y llefarydd bod y swyddfa ddosbarthu a mannau cymunedol gerllaw wedi'u glanhau yn drwyadl a bod y Post Brenhinol yn ystyried iechyd a diogelwch eu gweithwyr, eu cwsmeriaid a'r cymunedau lle maent yn gweithredu o ddifrif.
"Drwy'r pandemig ry'n wedi cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys dosbarthu heb gyswllt ac ry'n yn atgoffa ein staff yn gyson am bwysigrwydd pellter cymdeithasol, diheintio a golchi dwylo," ychwanegodd llefarydd.
Yn ystod y 24 awr ddiweddaraf, cafodd 67 o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru ynghyd â 801 o achosion newydd - roedd 37 o'r achosion hynny yng Ngwynedd.
DIWEDDARAF: Ysgolion ar gau nes bod 'gostyngiad sylweddol'
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021