Pro14: Scarlets 10-13 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Matthew Morgan takes on Jonathan Davies and Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Morgan yn brwydro yn erbyn Jonathan Davies a Gareth Davies

Fe wnaeth y Gleision drechu'r Scarlets o dri phwynt nos Wener a hynny yng ngêm gyntaf Dai Young wrth y llyw.

Matthew Morgan o'r Gleision a sgoriodd y cais agoriadol a hynny ar ôl chwarter awr. Wedi trosiad llwyddiannus ac yna cic syml gan Jarrod Evans roedd yr ymwelwyr wedi ymestyn eu mantais i 10 pwynt.

0-10 oedd y sgôr ar yr hanner ond yn fuan yn yr ail hanner fe ddaeth tri phwynt i'r Scarlets drwy Leigh Halfpenny ond lai na deng munud wedi hynny roedd y Gleision wedi ymestyn eu mantais ymhellach gyda chic gosb Jarrod Evans.

Ond wnaeth hynny ddim digalonni'r Scarlets yn ormodol oherwydd wedi 67 munud o chwarae roedd yna gais i'r blaensgellwr o'r Alban, Blade Thompson ac wedi i Leigh Halfpenny drosi'n llwyddiannus roedd y sgôr yn 10-13 a dyna oedd y sgôr terfynol.

Y Gleision felly yn trechu'r Scarlets unwaith eto yn y Pro14.