Cerdyn Santes Dwynwen 2021
- Cyhoeddwyd

Bu 2020 yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen. Gweithio adref, cau siopau, bwytai a thafarndai a threulio llawer iawn o amser rhwng yr un pedair wal â'ch gŵr/gwraig/cariad/cymar/partner oes. Felly, beth sy'n addas i'w roi mewn cerdyn eleni i ddathlu dydd y cariadon?
Y bardd a'r awdur Casia Wiliam fu'n crafu pen...

Cerdyn Santes Dwynwen 2021
Eleni rwy'n oedi cyn sgwennu'n y cerdyn,
Pa beth yw ein cariad ar ôl y fath flwyddyn?

Be fedra i ddweud sy'n glên ac yn deg?
Gair gonest, diffuant, heb arlliw o reg?

Ar ddechrau'r clo cynta' roedd popeth yn grêt,
Gweithio adra efo'n gilydd, amser cinio fel dêt!

Gwneud coffi bach sbesial, a swper reit iach,
Ein dyddiau'n dra dedwydd er gwaetha'r holl strach.

Ond yna, 'mhen tipyn, i bupro ein dyddiau,
Daeth ein gêm (ddi-enillydd), o ofyn cwestiynau...

Pam wyt ti'n gadael te yng ngwaelod y mwg?
Ti'n ymwybodol bod dy wallt di yn blocio y plwg?

Wyt ti'n meddwl mai tylwythen sy'n cadw y llestri?
Ti 'di sylwi na 'mond fi sydd yn sortio'r ailgylchu?

O le ges di'r cwestiynau?! Mor anodd, i gyd!
Ac ers pryd ydwi'n briod â chwisfeistr y byd?!

Nes di'm yfed potel arall rôl mi fynd i ngwely?
Be 'di pwynt gwylio ffilm os wyt ti jest am gysgu?

I fynd ar zoom? Ti'm yn meddwl bod y lipstick yn ormod?
Delivery arall? Allai'm delio 'fo'r cardbord!

Tisio cyri? Ne bitsa? Ta ' ti nôl ar y slimio?
Oes angen cnoi creision ar ffasiwn grescendo?

Wyt ti'n meddwl bod hufen dwbl yr un fath ac Elmlea?
Dim ond un bag o Skittles? Nes i'm gofyn am dri?

Mae isio llefrith bob tro, pam na fedri di gofio?
Be ti'n neud wrth y sinc 'na?! Mae'r gegin yn nofio!

Ma'i 'di bod, Dwynwen fach, yn flwyddyn a hannar.
Pa nodyn o gariad a ro' i fy nghymar?

Be fedra i ddweud sy'n glên ac yn deg?
Gair gonest, diffuant, heb arlliw o reg?

Dwi'n estyn y feiro, yn meddwl am hir,
Cyn sgwennu, o'r diwedd, yr unig beth gwir...

Ti'n fy ngyrru i'n boncyrs. Yn wallgo. O 'ngho.
Ond chdi 'swn i'n ddewis mewn lockdown, bob tro.

Casia Wiliam
Y bardd Casia Wiliam sy'n myfyrio ar beth i'w ysgrifennu yn y cerdyn Santes Dwynwen eleni.
Hefyd o ddiddordeb: