Defnyddio'r cyfnod clo i gael tŷ trefnus

  • Cyhoeddwyd
Hefina ac Eta, a droriau taclusFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr

Gyda phawb yn treulio cymaint o amser gartref yn ystod y cyfnod clo, mae cadw trefn ar dŷ yn gallu bod yn gur pen.

A gan bod nifer wedi defnyddio'r cyfnod clo cyntaf yn y gwanwyn i gael trefn yn yr ardd, beth am ddefnyddio'r cyfnod clo gaeafol yma i chwynnu yn y tŷ?

Felly os ydy pob drôr a chwpwrdd acw yn orlawn, a'r holl geriach yn y tŷ yn mynd ar eich nerfau, dyma gyngor gan ddwy sydd wedi meistroli'r grefft o gael trefn - Delyth Ross o Lanrug a Hefina Jones o Gaernarfon.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr

'Un drôr ar y tro'

Nage, nid addasiad o gân Trebor Edwards ond cyngor Hefina Jones er mwyn osgoi torri calon ar ddechrau'r siwrnai tuag at gael cartref taclus ar ddechrau blwyddyn newydd.

"Byddwch yn realistig wrth fynd ati i glirio a thacluso," meddai Hefina. "Un cwpwrdd ac un drôr ar y tro."

Mae'n syniad dechrau gyda'r pethau hawsaf i gael gwared â nhw'n syth - hen waith papur, hen gylchgronau, sanau a chlustdlysau heb bartner, teganau a thrugareddau sydd wedi torri neu efo darnau coll, hen boteli persawr wedi suro, hen golur llawn bacteria a'r offer diangen sy'n hel llwch yn y gegin.

"Ydych chi'n cofio hyd yn oed am y sbiniwr salad a'r pethau potsio wyau yna sydd yng nghefn y cwpwrdd?" meddai Hefina. "A beth am y spiraliser sydd heb ei ddefnyddio ers mis Ionawr 2016? Yda' chi wir angen saith llwy bren?"

'Peidiwch gorfeddwl'

Pan mae'n dod i daflu pethau allan, mae'n haws dweud na gwneud, meddai rhai. Ond nid Delyth Ross sy'n dweud bod teimlad braf mewn carthu cypyrddau:

"Mae'n hawdd gwneud - dim ond i chi beidio gorfeddwl.

"Gorfeddwl ydi gelyn gwneud. Peidiwch â bod ofn, dim ond pethau ydi nhw."

Ei chyngor hi ydi ateb ambell gwestiwn yn onest wrth ddidoli dillad: "Yda' chi wedi ei wisgo yn y misoedd diwetha'? Ydi o'n eich siwtio? Ydi o'n ffitio? Ydi o'n gwneud i chi deimlo'n grêt?

"Os ydych chi'n ateb 'na' i unrhyw un o'r cwestiynau yma, mae'n rhaid cael gwared. Gwerthwch neu ailgylchwch be' fedrwch chi a chofiwch am eich siopau elusen leol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Delyth a Hefina

'Prynu llai - ond prynu'n dda'

Mae Delyth yn gwybod pa steil sydd yn ei siwtio ac mae hi'n dewis a dethol ei dillad yn ofalus.

Mae hi'n credu mewn prynu llai a phrynu'n dda ac yn ceisio cael cwpwrdd dillad gydag eitemau craidd sydd yn cyd-fynd â'i gilydd yn dda: "Mae'n haws penderfynu be' i wisgo, yn arbed amser ac arian ac yn well i'r amgylchedd.

"Os nad ydi rhywbeth yn ddefnyddiol cysidrwch os fydd o'n handi i rywun arall."

Mae Delyth yn awgrymu cael bocs 'elusen' yn rhywle yn y tŷ.

"Mae fan yma yn le i roi pethau sydd yn werth eu cael i rywun ond ddim i chi ac wrth roi rhywbeth ynddo bob hyn a hyn buan iawn wneith o lenwi yn barod i chi fynd â fo i siop elusen," meddai.

Mae'r elusen yn elwa wrth gwrs - ond mae hynny hefyd yn arwain at lai o ddillad yn eich tŷ.

Mi fydd Delyth yn prynu o siopau elusen gan edrych allan am labeli a gwneuthuriad o ansawdd da, sy'n para yn hirach.

Ychwanegodd: "Dim ots gennai am y trend diweddara', mae'r diwydiant ffasiwn yn annog pobl i brynu gormod o ddillad ac mae ffasiwn gyflym mor wastraffus."

O ddilyn y cyngor yma bydd eich cyfrif banc yn elwa - ac fe fydd yn haws cau drysau'r wardrob.

'Rwtin dyddiol - a rhestr'

Os ydy pawb yn brysur, mae'n anodd cadw tŷ mewn trefn.

Mae hi a'i phartner Julian yn gweithio llawn amser, yn gweithio shifftiau hir ac maen nhw hefyd wedi bod yn dysgu Eta gartref yn ystod y cyfnod clo.

"Mae sticio i rwtîn efo gwaith tŷ yn helpu cadw trefn," meddai Hefina, gan argymell gwneud rhestr ar bapur neu ap ffôn.

"Gallwch ddechrau hefo pum tasg y diwrnod, er enghraifft, newid gwely, golchi dillad, hwfro…"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Hefina ac Eta

'Help gan y plant'

Mae'n gallu bod yn anoddach cadw trefn yn ystod y cyfnod clo wrth i bobl dreulio cymaint mwy o amser gartref.

Yr ateb i deuluoedd ydi cael help y plant, fydd hefyd yn dysgu arferion da iddyn nhw.

Meddai Hefina: "Mae llnau a thacluso yn gêm yn tŷ ni. 'Da ni'n gosod teimar, ac mae Eta wrth ei bodd yn tacluso a llnau i guro'r cloc. Dwi'm yn amau na Eta fydd yr Mrs Hinch nesa!"

Gallwch gael y plant i helpu chi wneud rhestr siopa ac i chwilio am yr eitemau yn y siop a gwneud mathemateg syml efo'r prisiau, ac wedyn eich helpu i goginio'r bwyd. Un o reolau rwtîn Hefina ydi peidio gwneud gwaith tŷ ar benwythnosau er mwyn cael hwyl ac amser teulu.

'Gwnewch o heddiw'

"Gwneud dipyn bach bob dydd," meddai Delyth, sy'n credu mewn edrych ar ôl y pethau sydd ganddoch chi.

"Trïwch gadw petha'n lân, trwsio pethau sydd wedi torri a glanhau unrhyw lanast yn syth."

Mae hi'n argymell peidio gor-feddwl, torri tasg fawr lawr i dasgau bach a pheidio diogi na gadael pethau tan fory:

"Gwnewch o heddiw a chofiwch fod gwneud gwaith tŷ yn ymarfer corff da - gwell na mynd i'r gym a tydi o'n costio dim, ac ar ei ddiwedd 'da chi'n cael ymlacio mewn tŷ twt a glân."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig