Yfed yn y Senedd: Enwi Nick Ramsay fel y pedwerydd aelod
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru'n deall mai AS Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay ydy'r pedwerydd aelod sy'n destun ymchwiliad i yfed alcohol ar dir y Senedd yn ystod gwaharddiad cenedlaethol.
Mae tri o aelodau'r Senedd eisoes wedi ymddiheuro am y digwyddiad ym mis Rhagfyr.
Mae sawl ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru mai aelod Ceidwadol Mynwy ydy'r pedwerydd aelod etholedig sy'n cael ei grybwyll yn ymchwiliad y Senedd.
Dywedodd Mr Ramsay ei fod wedi camu 'nôl o gabinet yr wrthblaid.
Fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd ychydig ddyddiau wedi i'r digwyddiad ddod i'r amlwg.
Mae Darren Millar hefyd wedi ymddiswyddo fel prif chwip y blaid, tra bod Alun Davies wedi cael ei wahardd o'r grŵp Llafur yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r tri yn mynnu nad ydyn nhw wedi torri'r rheolau Covid-19 oedd mewn grym bryd hynny, ar ddechrau Rhagfyr.
'Torri rheol posib'
Daeth ymchwiliad gan awdurdodau'r Senedd i'r casgliad bod pump o bobl - pedwar ohonynt yn aelodau etholedig - wedi yfed ar dir y Senedd ychydig ddyddiau wedi i dafarndai a bwytai gael eu gwahardd rhag gweini alcohol.
Mae'r Senedd wedi cyfeirio'r "torri rheol posib" o reoliadau Covid-19 at Gyngor Caerdydd a chomisiynydd safonau'r sefydliad.
Mae Paul Davies, Darren Millar, Alun Davies a phennaeth staff y grŵp Ceidwadol, Paul Smith, oll wedi ymddiheuro am y digwyddiad.
Roedd Mr Ramsay wedi cael ei enwi i ddechrau fel un o'r rhai fu'n yfed alcohol yn y Senedd, ond dywedodd ei gyfreithiwr ddydd Mercher ei fod wedi mynd i ystafell de y sefydliad ar ei ben ei hun, heb wahoddiad gan unrhyw un arall.
"Roedd yn llwgu ac eisiau rhywbeth i'w fwyta. Eisteddodd ar ei ben ei hun a chadw pellter," meddai'r datganiad.
"Aeth i'r ystafell de am tua 18:00. Cafodd gyri cyw iâr. Gadawodd am tua 20:00. Fe ddaeth eraill i mewn tra roedd yno ond doedd Mr Ramsay ddim yn rhan o unrhyw gasgliad o bobl."
Yn dilyn sawl cais am eglurder, fe wnaeth y cyfreithiwr ryddhau datganiad ar ran Mr Ramsay brynhawn Llun.
"Ddoe, o ganlyniad i ymchwiliad y Comisiynydd Safonau fe wnaeth ein cleient gynnig ei ymddiswyddiad o gabinet yr wrthblaid i arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ac fe wnaeth Mr Davies ei dderbyn," meddai.
"Mae Mr Ramsay wedi cydweithio'n llawn ag ymchwiliad Comisiwn y Senedd a bydd yn cydweithio gydag ymchwiliad y Comisiynydd Safonau."
Dim lle yng nghabinet y Ceidwadwyr
Mae Andrew RT Davies wedi cael ei ddewis i olynu Paul Davies fel arweinydd y grŵp Ceidwadol, ac wedi ad-drefnu cyfrifoldebau'r grŵp yn y Bae.
Mae wyth o'r 11 aelod Ceidwadol wedi cael rôl yng nghabinet yr wrthblaid - ond nid Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay.
Fis diwethaf cafodd Mr Ramsay ei ddad-ddethol gan ei blaid leol fel eu hymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021