Awdurdodau'r Senedd yn cyfeirio achos ASau at y cyngor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
senedd

Mae ymchwiliad gan awdurdodau Senedd Cymru wedi dod i'r casgliad fod pedwar Aelod o'r Senedd wedi yfed alcohol ar dir y Senedd, ddyddiau wedi i waharddiad ar werthu alcohol ddod i rym.

Gyda'r ymchwiliad o'r farn bod rheolau Covid "o bosib wedi eu torri" ar y pryd, mae'r Senedd wedi cyfeirio'r achos at Gyngor Caerdydd a Chomisiynydd Safonau'r Senedd.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, eisoes wedi ymddiheuro am y digwyddiad, ond ddydd Gwener fe gafodd gefnogaeth unfrydol aelodau'r blaid yn y Senedd i barhau yn ei swydd.

Mae Mr Davies, ei brif chwip Darren Millar a'r AS Llafur Alun Davies wedi gwadu iddyn nhw dorri rheolau coronafeirws.

Cafodd AS Blaenau Gwent, Alun Davies, ei wahardd o grŵp Llafur yn y Senedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae AS Ceidwadol arall, Nick Ramsay, wedi gwadu bod yn rhan o'r digwyddiad.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am eglurhad gan y Senedd o bwy yw'r pedwerydd AS fu'n yfed alcohol yn y sefydliad.

'Cyfyngiadau llym'

Ar 8 Rhagfyr roedd pum unigolyn - pedwar AS a phennaeth staff y Ceidwadwyr Paul Smith - wedi bod yn yfed alcohol yn "ystafell de drwyddedig y Senedd" yn ôl ymchwiliad y Senedd.

Roedd hynny bedwar diwrnod wedi i waharddiad ar werthu alcohol mewn tafarnau a sefydliadau trwyddedig.

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: "Roedd y Rheoliadau a oedd ar waith adeg y digwyddiad yn gosod cyfyngiadau llym ar aelodau'r cyhoedd o ran yfed alcohol.

"O ystyried bod y torri rheol posib dan sylw wedi digwydd o ganlyniad i Aelodau'r Senedd yn yfed alcohol, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau i ofyn iddo ymchwilio a oedd yr Aelodau hyn wedi gweithredu yn unol â'r ddyletswydd yn y Cod Ymddygiad i ymddwyn mewn modd sy'n cynnal a chryfhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn uniondeb y Senedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies wedi cael cefnogaeth y grŵp Ceidwadol i barhau fel arweinydd

Mewn cyfarfod amser cinio ddydd Gwener fe wnaeth y grŵp Ceidwadol yn y Senedd gwrdd i drafod y digwyddiad cyn rhoi eu cefnogaeth "unfrydol" i Paul Davies i barhau fel eu harweinydd.

Cafodd BBC Cymru wybod o sawl ffynhonnell bod Mr Davies wedi dweud yn y cyfarfod ei fod wedi ystyried ymddiswyddo fel arweinydd.

Deellir hefyd bod y datganiad o gefnogaeth wedi ei wneud cyn i'r aelodau weld canlyniad ymchwiliad y Senedd.

Mae cyfarfod o fwrdd y Ceidwadwyr Cymreig yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

'Anghrediniol'

Pan ofynnwyd i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am ei farn ar y mater yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddai'r un aelod o staff yr ystafell de oedd ar ddyletswydd y noson honno yn cael y bai am y digwyddiad.

"Rwy'n bryderus na fydd hyn yn arwain at yr un person yna'n ysgwyddo'r baich am yr hyn ddigwyddodd," meddai.

"Roedd un aelod benywaidd o staff a chasgliad o aelodau profiadol o'r Senedd.

"Mae'r syniad bod yr aelod o staff ar fai yn ymddangos yn anghrediniol i mi, ac rwy'n gobeithio nad yw hyn yn mynd i'r cyfeiriad yna."

'Pardduo'r Senedd'

Dywedodd Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae peidio ymateb i weithredoedd aelodau yn gamfarniad ar ran grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd.

"Dylai eu harweinydd a'u prif chwip fod yn gosod esiampl yng nghanol pandemig yn hytrach na chael eu tynnu i ddigwyddiad sydd mewn perygl o bardduo'r Senedd.

"Mae'n ymddangos bod cynllwynion mewnol y grŵp Ceidwadol yn eu hatal rhag gwneud y peth iawn."

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod yr awdurdod sy'n darparu trwyddedau'r ardal wedi cael cais i ymchwilio i'r digwyddiad.

"Unwaith y bydd yr ymchwiliad ar ben, ac os ydy'r rheoliadau wedi'u torri, byddwn yn gweithredu'n briodol, allai gynnwys dirwy neu erlyniad yn y llys," meddai llefarydd.