Alcohol yn y Senedd: 'Disgwyl i bawb ddilyn y rheolau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies wedi dod dan y lach gan aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn disgwyl i bawb, "dim ots beth yw eu statws" ddilyn y rheolau Covid-19 medd llefarydd ar ei ran, wedi i Aelodau Ceidwadol o'r Senedd gael eu gweld yn yfed alcohol tra roedd gwaharddiad mewn lle.

Mae'r Ceidwadwyr Paul Davies a Darren Millar, a'r aelod Llafur Alun Davies wedi ymddiheuro am yfed yn y Senedd wedi i'r gwaharddiad ar weini alcohol ddod i rym.

Y gred yw nad ydy'r criw wedi torri'r rheolau oedd mewn grym ar ddechrau Rhagfyr, ond mae'r ddau aelod Ceidwadol wedi cyfaddef bod eu gweithredoedd yn groes i ysbryd y rheolau.

Mae pedwerydd aelod o'r Senedd, Nick Ramsay, wedi gwadu bod yn rhan o'r digwyddiad, ac mae awdurdodau'r Senedd yn ymchwilio.

Beth ddigwyddodd?

Ar 8 Rhagfyr fe wnaeth grŵp o aelodau o'r Senedd a staff yfed alcohol yn adeilad Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd, sy'n gartref i swyddfeydd y Senedd.

Roedd tafarndai a bwytai wedi cael eu gwahardd rhag gwerthu alcohol ychydig ddyddiau ynghynt.

Dywedodd ysgrifennydd y wasg Boris Johnson, Allegra Stratton nad oedd hi wedi siarad â Phrif Weinidog y DU am a ddylai Mr Davies barhau yn ei rôl fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Ond ychwanegodd: "Mae'r Prif Weinidog angen i bawb, dim ots beth yw eu statws, dim ots beth yw eu safle mewn bywyd, wneud popeth o fewn eu gallu i ddilyn y rheolau Covid."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson yn disgwyl i bawb, "dim ots beth yw eu statws" ddilyn y rheolau Covid-19

Mae ffynhonnell Geidwadol lawr gwlad flaenllaw wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n "synnu" petai Mr Davies yn dal yn arweinydd y blaid yn y Senedd erbyn "diwedd yr wythnos".

Mae'r AS Ceidwadol Nick Ramsay wedi gwadu ei fod yn rhan o'r digwyddiad, er iddo fynd i'r bwyty yn y Senedd ar ben ei hun ar y noson honno.

Dywedodd datganiad ar ei ran ei fod wedi gadael am "tua 20:00", ac er bod eraill wedi dod i mewn tra ei fod yna, nid oedd yn "gyfarfod yr oedd Mr Ramsay yn rhan ohono".

Mae'r Blaid Lafur wedi atal Alun Davies rhag "breintiau aelodaeth Grŵp Llafur y Senedd tra bod ymchwiliad yn digwydd i'r digwyddiad honedig hwn", ond nid yw'r aelodau Ceidwadol wedi colli chwip y blaid.

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod Llafur wedi "gwneud y peth iawn" wrth atal Mr Davies, ond dywedodd ei bod yn "fater i grwpiau eraill" benderfynu ar aelodau o bleidiau eraill.

'S'neb yn mynd i roi eu pen ar y bloc i Paul Davies'

"Rwy'n gandryll," meddai'r ffynhonnell Geidwadol lawr gwlad a gysylltodd â BBC Cymru.

"Neges y blaid yw bod angen torri'r cartél ym Mae Caerdydd ac maen nhw'n cael amser braf yn yfed gydag Alun Davies sydd wedi bod yn filain yn ein herbyn yn gyhoeddus.

"Rwyf wedi siarad gyda llawer o Geidwadwyr a dydyn nhw ddim yn hapus o gwbl.

"S'neb yn mynd i roi eu pen ar y bloc i Paul Davies. Synnwn i'n fawr os yw'n parhau tan ddiwedd yr wythnos."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cyfeiriodd y ffynhonnell hefyd at alwad Mr Millar ar ddechrau'r pandemig i ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething dros honiad o dorri'r rheolau Covid-19 drwy eistedd i fwyta sglodion wrth fynd am dro gyda'i deulu.

Ym mis Mai, fe ddywedodd Mr Millar yn y Senedd: "Mae'n ymddangos i'r cyhoedd bod yna un rheol i'r gweinidog iechyd ac un arall iddyn nhw."

Dywedodd y ffynhonnell: "Darren Millar yn trafod Vaughan Gething yn bwyta sglodion - wel, beth ar y ddaear mae e ei hun yn ei wneud?"

'Penbleth'

Mae ail ffynhonnell Geidwadol yn "gegrwth" bod y tri AS Ceidwadol heb sefyll i lawr tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

"Mae yna gryn ddicter a 'sa i'n gwybod sut allen nhw barhau," meddai. "Mae pawb dwi wedi siarad â nhw o fewn y blaid mewn penbleth dros hyn.

"Dyw e ddim fel petaen nhw wedi cael eu datguddio'n annheg, mae hwn yn gôl i'w rhwyd eu hunain

"Bydd yna bwysau o gyfeiriad rhai ar lawr gwlad, llawer y byddwn ni eu hangen yn y 12 wythnos nesaf i ymgyrchu drostom yn yr etholiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd ffynhonnell arall o fewn y blaid: "Mae sefyllfa Paul fel arweinydd nawr yn anghynaladwy, yn enwedig o ystyried y straen ar bobl sy'n gweithio'n galed.

"Ni allwch chi ganslo'r Nadolig a gorchymyn tafarndai i gau, ac yna cael eich lock-in eich hun yn yr Assembly Boys Club."

'Pobl yn casáu rhagrith pobl mewn swyddi uchel'

Dywedodd cyn-oruchwylydd safonau cyhoeddus wrth raglen Wales Live nos Fawrth fod yr achos yn "fater difrifol iawn".

Yn ôl Syr Alistair Graham, cadeirydd pwyllgor safonau cyhoeddus San Steffan rhwng 2003 a 2007, mae angen "ymchwiliad buan" i'r achos.

"Rwy'n meddwl fod hwn yn fater difrifol iawn oherwydd mae Cymru mewn argyfwng, mae gweddill y Deyrnas Unedig mewn argyfwng," meddai.

"Y neges i ni oll yw y bydd dilyn y rheolau'n arbed bywydau.

"Felly, os oes gyda ni wleidyddion, y mae disgwyl iddyn nhw ddangos arweiniad yn y materion hyn, yn torri'r rheolau naill ai'n llythrennol neu o ran ysbryd, yna does dim byd y mae'r cyhoedd yn ei gasáu fwy na rhagrith pobl mewn swyddi uchel.

"Y peth pwysig yw cael ymchwiliad buan fel bod yr holl ffeithiau gyda ni y gellir gwneud penderfyniadau ar eu sail.

"Honnir eu bod wedi gadael eu cyfarfod am ddau o'r gloch y bore, sy'n ymddangos yn eithaf rhyfedd, yn achos cyfarfod gwaith mor hir, yn ôl eu disgrifiad... rhaid i'r cyhoedd wybod beth yn union ddigwyddodd."

Ychwanegodd Syr Alistair y byddai'n "disgwyl fel arfer" i'r aelodau dan sylw gael eu hatal o'u grwpiau pleidiol yn y Senedd.