Ysgolion: Galw am ddarlun 'clir' ynglŷn â dychwelyd
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer caniatáu i blant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth, yn ôl y Comisiynydd Plant.
Mae'r Athro Sally Holland yn galw am negeseuon "clir ac agored" er mwyn lleddfu'r ansicrwydd mae pobol ifanc yn ei deimlo.
Fe fydd y cyfyngiadau coronafeirws, sy'n cynnwys cau ysgolion a cholegau, yn cael eu hadolygu ddydd Gwener.
Eisoes mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn debygol na fydd holl ddisgyblion Cymru'n dychwelyd ar ôl hanner tymor fis Chwefror.
Tra'n dweud nad yw hi'n disgwyl amserlen ar hyn o bryd, mae'r Athro Holland yn galw am wybodaeth glir am y fframwaith i atgyfodi addysg wyneb yn wyneb.
"Ar ba dystiolaeth maen nhw'n edrych, a beth maen nhw angen ei weld gyda'r feirws a gyda phethau arall cyn bo' nhw'n gallu cael plant a phobl ifanc 'nôl yn rhan amser neu'n llawn amser mewn ysgolion a cholegau?" gofynnodd.
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dweud ei bod am ystyried "pob opsiwn posib" ar gyfer dechrau gweld plant yn dychwelyd.
Mae Jane Jenkins, pennaeth ysgol gynradd Moorland yng Nghaerdydd yn credu byddai'n well cael system rota i blant ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn hytrach na chanolbwyntio ar rai grwpiau blwyddyn yn dychwelyd.
"Dwi'n credu bod hynny'n achosi llawer o broblemau i deuluoedd lle mae rhai plant mewn grŵp blwyddyn yn dod mewn bob dydd, plant eraill sydd byth mewn - dwi'n credu bod hynny'n gynllun anodd, yn sicr o safbwynt ysgol gynradd," meddai.
Mae trafodaethau am agor ysgolion yn parhau rhwng y llywodraeth, awdurdodau lleol ac undebau.
Mae undeb NEU Cymru'n dweud bod angen sicrhau pellter o leiaf un metr rhwng disgyblion ym mhob ysgol a choleg yn hytrach na 'swigod' sydd weithiau'n cynnwys blwyddyn gyfan.
"Oherwydd bod yr amrywiolyn newydd yma yn cael ei ledaenu'n llawer haws na'r un cyntaf, da' ni'n meddwl y dylai plant 11 oed neu hŷn wisgo mwgwd yn yr ystafell ddosbarth," meddai Stuart Williams o NEU Cymru.
"Dylen ni gael nhw 'nôl mor fuan â phosib, dwi'n cytuno, ond mae'n rhaid ei bod yn hollol saff ac yn hollol ddiogel i'r staff a hefyd i'r plant ddychwelyd 'nôl i'r ysgol.
"Be' da' ni ddim isio ydy dychwelyd 'nôl i'r ysgol a bod yr achosion neu'r gyfradd R yn codi'n sylweddol am fod ysgolion yn ôl.
"'Dan ni isio i'r plant fynd 'nôl i'r ysgol ac aros yn yr ysgol i gael eu haddysg."
Yn ogystal mae'r undebau a'r gwrthbleidiau yn parhau i alw am flaenoriaethu staff ysgolion yn y rhaglen frechu.
Dywedodd Suzy Davies AS, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig mai brechu staff ysgolion a cholegau ar ôl y grwpiau mwyaf bregus, oedd y dull gorau o "achub addysg".
Pe bai'r Mr Drakeford yn cyhoeddi bod Cymru'n parhau â'r cyfyngiadau ar ysgolion a cholegau yn ei adolygiad ddiwedd yr wythnos, dywedodd Ms Davies bod yn rhaid i'r Gweinidog Addysg nodi cynllun clir ar gyfer yr hyn sy'n digwydd nesaf.
"Mae hynny'n golygu bod y gweinidog yn gwneud penderfyniadau am grwpiau blwyddyn penodol yn dychwelyd, rotau, defnyddio cyfleusterau cymunedol eraill i helpu rheoli ymbellhau cymdeithasol," meddai.
"Mae oedi y tu hwnt i hanner tymor yn mynd â ni yn agos at y dibyn mewn sawl ffordd - dysgu, sgiliau cymdeithasol plant a phobl ifanc, eu hiechyd meddwl, iechyd meddwl staff a rhieni sy'n ceisio brwydro ymlaen - mewn cyfnod fwyfwy anodd wrth oruchwylio dysgu gartref."
Sut gallai disgyblion ddechrau dychwelyd?
Rotau
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud y gallai rotau "chwarae rhan o bosib".
Mae hefyd yn ddull sydd wedi ei awgrymu gan undebau athrawon.
Petai disgyblion yn cymryd eu tro bob dydd neu'n wythnosol i fynd i'r ysgol byddai'n golygu llai o ddisgyblion ar y safle ar unrhyw un adeg, fyddai'n caniatáu mwy o ymbellhau a/neu grwpiau cyswllt llai o bosib.
Blaenoriaeth i rai grwpiau blwyddyn
Mae hyn wedi ei wyntyllu fel opsiwn gan weinidogion.
Mae'r grwpiau blwyddyn dan sylw yn cynnwys plant hyn sy'n astudio ar gyfer cymwysterau pwysig a'r plant ieuengaf sy'n ei chael hi'n anodd dysgu o bell.
Mae yna bryder cynyddol am yr effaith ar lythrennedd a sgiliau cymdeithasol plant ifanc ar adeg dyngedfennol yn eu datblygiad.
Gweithredu'n rhanbarthol
A allai ysgolion mewn ardaloedd â chyfraddau achosion Covid is ddychwelyd yn gyntaf?
Mae hyn wedi cael ei grybwyll fel ffordd i gael cynifer o ddisgyblion â phosibl yn ôl yn yr ystafell ddosbarth cyn gynted â phosibl.
Addasu tymhorau ysgol
Wedi'i grybwyll gan y Gweinidog Addysg ar sawl achlysur, fe fethodd unrhyw gynlluniau i symud amseroedd tymor y llynedd.
Methodd y trafodaethau i symud gwyliau'r haf yn gynharach fel bod plant yn cael dychwelyd i'r ysgol fis Awst oherwydd pryderon undebau.
Tri awdurdod lleol yn unig lwyddodd i ychwanegu wythnos i dymor yr haf wedi trafodaethau rhwng cynghorau, undebau a Llywodraeth Cymru.
Mae Kirsty Williams wedi dweud mai ei barn bersonol yw bod angen newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol a bod haf hir i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth "yn gwneud niwed enfawr yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf difreintiedig".
Yn y tymor byr mae yna bythefnos o wyliau yn y calendr ar gyfer y Pasg, o ddiwedd mis Mawrth.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf fe gafodd y gwyliau yna ei symud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021