Gallai rhai plant cynradd fynd yn ôl i'r ysgol o 22 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Gallai plant ysgolion cynradd yng Nghymru ddechrau dychwelyd i'r dosbarth fesul dipyn o ddydd Llun, 22 Chwefror - yr wythnos wedi hanner tymor - os fydd cyfraddau heintio'n parhau i ddisgyn.
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o adolygiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford i reolau'r cyfnod clo, sy'n digwydd pob tair wythnos.
Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 29 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yn eu hystadegau ddydd Gwener, gyda 546 o achosion newydd.
Fel rhan o'r adolygiad i reolau'r cyfnod clo, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r cyfyngiadau coronafeirws eraill yn parhau yng Nghymru am o leiaf y tair wythnos nesaf.
Mae gweinidogion wedi bod o dan bwysau i gyhoeddi'u cynlluniau er mwyn dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r flaenoriaeth ydy cael y plant ieuengaf yn ôl i'r ysgol.
Ond awgrymodd Mr Drakeford hefyd y gallai'r dychweliad graddol i'r ysgol gynnwys rhai disgyblion sydd i fod i sefyll arholiadau.
Aeth Cymru i mewn i'r cyfnod clo diweddaraf ychydig cyn y Nadolig.
Yn flaenorol roedd gweinidogion wedi rhybuddio i beidio disgwyl "llacio sylweddol" o'r rheolau oherwydd y pwysau sy'n parhau ar y Gwasanaeth Iechyd.
'Map allan o'r cyfnod clo'
Cafodd y penderfyniad ar ysgolion ei wneud wythnosau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfnod clo lefel pedwar er mwyn atal ymlediad Covid-19.
Ers hynny mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng.
Dywedodd Mr Drakeford fore Gwener bod achosion o'r coronafeirws yn "gostwng yn raddol" ond rhybuddiodd fod y "cyfraddau'n rhy uchel o hyd".
"Rydym yn gobeithio y bydd posib i ni gael ein dysgwyr ieuengaf yn ôl i'r ystafell ddosbarth ar ôl hanner tymor," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn addasiad arall i'r cyfyngiadau presennol, dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Radio Wales y bydd modd i berson wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gydag un person arall sydd ddim o'r un aelwyd â nhw.
Dywedodd fod hynny'n rhannol mewn "ymateb i negeseuon a glywsom gan fenywod am beidio â theimlo'n ddiogel" wrth fynd allan i ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn y tywyllwch.
"Bydd pobl yng Nghymru yn gallu ymarfer gydag un person arall o un cartref arall, ar yr amod bod yr aelwyd honno'n lleol i'r lle rydych chi'n byw," meddai.
Mae disgwyl iddo fanylu ar y cynlluniau yn y gynhadledd i'r wasg am 12:15 ddydd Gwener.
'Allwn ni ddim bod yn rhy araf eto'
Ddydd Iau galwodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies am "fap allan o'r cyfnod clo", fyddai'n cynnwys "targedau hanfodol ynghylch dosbarthu brechlynnau... ac ailagor ysgolion a busnesau".
Ond roedd hefyd yn cydnabod "nad oes llawer o le ar hyn o bryd i wneud unrhyw newidiadau".
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, annog cyfres o fesurau gan gynnwys gwneud masgiau o safon meddygol yn orfodol i bawb, a chynyddu lefel a hyblygrwydd y gefnogaeth i'r rhai sy'n hunan-ynysu.
Dywedodd: "Ar ôl mynd i gyfnod clo yn rhy araf, allwn ni ddim bod yn rhy araf yn ystyried pob ffordd posib o ddod â'r amrywiolyn newydd dan reolaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021