Brexit: Trethi posib yn 'niweidiol' i'r diwydiant dur
- Cyhoeddwyd
Gallai rhai nwyddau dur wynebu trethi o fewn misoedd yn dilyn Brexit, mae'r sector yn rhybuddio.
Dywedodd UK Steel ei fod "yn debygol" byddai cwotâu allforio ar gyfer rhai nwyddau'n rhedeg allan yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn hon - gydag allforion dur yn wynebu tollau o 25%.
Yn ôl AS Aberafan Stephen Kinnock, dylai Llywodraeth y DU geisio ail drafod y cwotâu newydd "niweidiol iawn" gyda'r UE.
Dywedodd Llywodraeth y DU byddai'n "cyfathrebu'n drwyadl" gyda'r sector.
Mae Tata Steel UK yn cyflogi tua 8,000 o bobl yn y DU, ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n byw yng Nghymru, gyda hanner ohonyn nhw'n gweithio ym Mhort Talbot.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 - cyn i'r pandemig effeithio ar y galw am ddur - collodd Tata Steel UK £654m o elw cyn trethi, ac mae yna alwadau am gefnogaeth ariannol o Lywodraeth y DU.
Ond dywedodd ASau Llafur wrth raglen BBC Politics Wales y gallai telerau'r cytundeb masnach newydd ôl-Brexit fod yn her i'r sector.
"Mae Boris Johnson wedi dweud does yna ddim cwotâu na thollau'n rhan o'r cytundeb Brexit - ond dydy hynny ddim yn wir," meddai Mr Kinnock.
"Mae'r diwydiant dur yn mynd i fod yn gaeth i dollau o 25% ar bob tunnell o ddur sydd dros gwota penodol rydyn yn allforio i'r Undeb Ewropeaidd," meddai.
"Ni wir mewn sefyllfa gythryblus a allai gael effaith niweidiol iawn ar y diwydiant dur.
"Mae angen i ni drafod eto gyda'r Undeb Ewropeaidd.
"Y cwestiwn mawr yw, oes gan yr Undeb Ewropeaidd unrhyw gymhelliad i drafod eto nawr bod y cytundeb wedi cael ei wneud. Ydyn ni wedi colli ein dylanwad?"
Erbyn hyn mae yna gwotâu gwahanol ar 29 o nwyddau gwahanol dur y mae'r DU yn masnachu gyda'r UE.
Dywedodd UK Steel, sy'n cynrychioli gweithgynhyrchwyr, bod rhai o'r cwotâu yn debygol o redeg allan yn chwarter cyntaf y flwyddyn.
"Dyddiad terfyn mesurau diogelwch yr UE [cwotâu] yw Mehefin 2021, ond mae'n edrych yn fwy tebygol bydd y rhain yn cael eu hymestyn heibio'r amser yma - o bosib am dair blynedd bellach," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
"Os nad yw'r DU yn gallu cael esgusodiad, neu gael eu cwotâu wedi'u hymestyn, bydd yn achosi problemau mawr i sector dur y DU."
Dywedodd fod Brexit hefyd yn effeithio ar faint o ddur mae'r DU yn gallu disgwyl allforio o ganlyniad i oediadau tollborthau, a phrinder o gludwyr a phryderon am gwsmeriaid yr UE.
Mae Mr Kinnock wedi annog Llywodraeth y DU i roi cefnogaeth i'r diwydiant.
Dywedodd y dadansoddwr dur Kathryn Ringwald y gallai Llywodraeth y DU fod wedi rhoi mwy o gymorth i'r sector, hyd yn oed pan oedd yn aelod o'r UE.
"O fewn rheoliadau Ewropeaidd, roedd rhai gwledydd yn dewis rhoi lot fwy o gefnogaeth yn gysylltiedig â chostau ynni i ddiwydiannau dur na ddewisodd Llywodraeth y DU i wneud," meddai.
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried a ydy dur yn dal i fod yn "ddiwydiant strategol".
"Byddai nifer yn dweud ei fod - mae gennym ni sector gweithgynhyrchu cryf felly mae angen diwydiant dur cryf, ond nawr mae yna leisiau gwahanol sy'n cystadlu am gefnogaeth.
"Mae diwydiannau fel lletygarwch, twristiaeth, siopa, i gyd wedi cael eu heffeithio'n wael gan y pandemig a'n edrych am gymorth i allu adfer.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth benderfynu beth yw'r flaenoriaeth, ble fydd yr economi'n cael ei helpu'n fwyaf yn y pendraw."
Yn ôl yr Athro Kent Matthews, economegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, byddai angen amser terfyn ar unrhyw gymhorthdal dur.
"Mae'r prif heriau yn ymwneud â gwerth am arian," meddai.
"Dadl y Trysorlys bydd nad ydyn nhw eisiau parhau i daflu arian at rywbeth sydd ddim yn mynd i ddod ag arian 'nôl.
"Yr effaith hirdymor ar ddur wrth i ni ddod allan o Brexit, os nad oes unrhywbeth yn newid, yw y bydd yn cael ei ddinistrio'n llwyr gan farchnadoedd rhyngwladol.
"Mae yna ddadleuon am gymorthdaliadau parhaol ar gyfer sectorau penodol ond dydy dur ddim yn un o'r rhain oherwydd mae'n un o'r nwyddau gallwch fewnforio, mae'n rhywbeth gallwch gael o'r tu allan."
Llywodraeth yn 'parhau i drafod'
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn parhau i drafod cwotâu cynyddol ar gyfer allforion i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydyn ni wedi gweithio'n llwyddiannus gyda'r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau cwota cyfradd tariff ar gyfer rhai nwyddau dur er mwyn galluogi cwmnïau'r DU i fasnachu heb dollau mewn i'r UE.
"Daeth y dosraniadau heb dollau mewn i rym ar 1 Ionawr 2021.
"Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio'n galed gyda'r sector i ddeall ei bryderon a'i anghenion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020