Galw am bartneriaeth rhwng Tata a Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud bod angen "ymatal rhag damcaniaethu" ynghylch dyfodol Tata Steel ym Mhort Talbot wedi cyhoeddiad sydd wedi codi amheuon am ddyfodol y safle.
Daeth sylwadau Simon Hart wedi galwadau am gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'w ddiogelu, wedi i'r perchnogion gyhoeddi bwriad ddydd Gwener i'r safle fod yn hunangynhaliol.
Mae'r cwmni eisiau rhedeg y busnes yn y DU heb gefnogaeth ariannol o India, ac mae'n bwriadu gwerthu ei gangen Ewropeaidd.
"Y ffaith yw bod Tata eisiau cynhyrchu dur yng Nghymru," meddai Mr Hart. "Mae hynny'n fan cychwyn da i ddechrau'r drafodaeth yma."
'Arwydd positif'
Ar Twitter nos Wener, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart fod e a'r Gweinidog Busnes a Diwydiant, Nadhim Zahawi wedi siarad gyda chynrychiolwyr Tata Ewrop yn gynharach yn y dydd.
Dywedodd ddydd Sadwrn: "Fe allwn ni fod mewn sefyllfa ble mae Tata'n dweud yn syml, 'edrychwch, dydyn ni ddim yn meddwl bod gyda ni ddyfodol yn y DU felly rydym am roi'r safle ar y farchnad'.
"Ni wnaethon nhw hynny. Yr hyn ddywedon nhw oedd eu bod eisiau presenoldeb cynhyrchu dur cynaliadwy yng Nghymru ac fe wnes innau a'r Gweinidog Busnes gymryd hynny fel arwydd positif."
Ar BBC Radio Wales ddydd Sadwrn dywedodd AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock, bod hi'n "bryd am bartneriaeth" rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU.
Mae'r cyhoeddiad, meddai "yn taflu'r goleuni'n gadarn ar Lywodraeth y DU, sydd nawr yn gorfod camu i'r adwy a rhoi cefnogaeth i ddiwydiant dur Prydain".
Mae'n dadlau y gallai'r busnes fod yn allweddol o ran yr ymdrechion i gyrraedd targedu carbon sero ac i "adeiladu capasiti'r wlad wedi Brexit".
Dywedodd Tom Hoyles, o undeb GMB Cymru, bod yna ddau opsiwn y dylid eu hystyried - cefnogaeth Llywodraeth y DU a'r posibilrwydd o wladoli'r busnes, pe bai angen.
"Mae Port Talbot a dur yn perthyn gyda'i gilydd fel pysgod a sglodion," meddai..
"Nid dim ond y swyddi yna fydd yn cael eu heffeithio ond y cadwyni cyflenwi... y busnesau llai a'r teuluoedd sy'n byw yn y dref, sydd hefyd yn pryderu."
"Sicrhau amodau deniadol a ffafriol'
Mewn ymateb i'r galwadau am gefnogaeth, dywedodd Mr Hart bod angen aros a gweld beth yw cynlluniau Tata ym Mhort Talbot, yn hytrach nag awgrymu y byddai gweinidogion San Steffan yn dod i'r adwy beth bynnag y gost.
"Dyw ceisio dyfalu beth yw syniad Tata o'r hyn sy'n gynaliadwy ddim yn mynd i helpu neb," dywedodd. "Rhaid i ni ymdrin â ffeithiau."
Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU "â record dda yng Nghymru" o ran helpu'r diwydiant dur trwy roi benthyciad brys i gwmni Celsa, yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.
Mewn cysylltiad â'r posibilrwydd o wladoli'r cwmni, atebodd Mr Hart: "Rydym eisiau gwneud beth bynnag y gallwn i sicrhau amodau sy'n ddeniadol ac yn ffafriol i Tata ddymuno parhau â phresenoldeb cynaliadwy.
"Unwaith y down nhw'n ôl atom a dweud 'dyma rydyn ni'n meddwl y galle hyn weithio'... dyna'r pryd i ddechrau trafod gwerth am arian a sut gallwn ni eu helpu i gyflawni'u newid."
Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener eu bod am barhau i weithio gyda'r cwmni a phartneriaid eraill.
Mae Tata eisoes mewn trafodaethau gyda chwmni o Sweden, SSAB ynghylch prynu ei fusnes yn Yr Iseldiroedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2020