Covid-19: 605 achos newydd a 34 marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 400,000 o bobl yng Nghymru bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn

Cafodd 605 achos a 34 marwolaeth yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul.

Mae 4,754 o bobl bellach wedi marw gyda'r haint yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Mae'n golygu bod 192,282 o achosion positif wedi'u cofnodi hefyd.

Dywed yr ystadegau diweddaraf fod cyfradd yr achosion dros saith diwrnod - fesul 100,000 o'r boblogaeth - wedi gostwng eto i 150.

Yn y cyfamser, mae 403,463 o bobl yng Nghymru wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19.

Roedd ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru - a gyhoeddwyd amser cinio ddydd Sul - hefyd yn dweud bod 786 o bobl wedi derbyn dau ddos.

Mae 73.8% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf erbyn hyn.

Rhybudd am e-byst 'soffistigedig'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio i bobl fod yn wyliadwrus am e-byst "twyllodrus" sy'n cynnig apwyntiadau brechu.

Mae twyllwyr hefyd yn anfon negeseuon testun yn cynnig brechlyn am ffi, meddai Heddlu De Cymru.

Dywedodd Dr Robin Howe, cyfarwyddwr digwyddiadau'r ar gyfer yr ymateb i achosion newydd: "Mae nifer o negeseuon e-bost twyllodrus a mwyfwy soffistigedig sydd ar led wedi dod i'n sylw, sy'n honni eu bod nhw gan y GIG a'u bod yn cynnig apwyntiadau brechu.

"Yn bresennol, ni ellir prynu brechlynnau Covid-19 yn breifat yn y DU.

"Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol. Dim ond gohebiaeth gan eich bwrdd iechyd y byddwch yn ei derbyn, a bydd eich brechiad yn rhad ac am ddim.

"Mae brechu oedolion Cymru er mwyn amddiffyn pobl rhag afiechyd difrifol yn dasg sylweddol a bydd yn cymryd amser i frechu pawb.

"Ar lefel genedlaethol, mae'n bosibl na fydd effeithiau'r brechlynnau i'w gweld am beth amser.

"Mae rhaid i bawb - gan gynnwys y rhai sydd wedi'u brechu - barhau i ddilyn y cyngor er mwyn cadw Cymru'n ddiogel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd fod y ffigyrau diweddaraf yn galonogol, ond na ddylai pobl orffwys ar eu rhwyfau.

"Rydym yn fwyfwy hyderus yn y data sy'n dangos tuedd gyson ar i lawr yn niferoedd yr achosion positif yng Nghymru," meddai Dr Howe.

"Fodd bynnag, mae nifer yr achosion yn dal i fod yn uchel, ac mae hyn yn gosod pwysau eithriadol ar ysbytai GIG Cymru.

"Mae hwn yn amser tyngedfennol.

"Rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw at y rheolau dros yr wythnosau nesaf fel bod nifer yr achosion yn parhau i leihau ac y gall ysbytai ddechrau dod dros y gwaethaf, tra bod y rhaglen frechu yn mynd rhagddi i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau."

Pynciau cysylltiedig