Ymgynghoriad ar godi premiwm ail gartrefi yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Wrth i nifer yr ail dai gynyddu yng Ngwynedd, dywed y cyngor sir mai'r bwriad yw codi premiwm y dreth cyngor arnynt hyd at 100%.
Ddydd Llun yw'r diwrnod olaf i gyflwyno sylwadau wrth i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.
Mae dros 7,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, sydd gyfystyr â mwy nag 11% o holl dai y sir.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod premiwm treth cyngor o 50% ar yr eiddo yma ers Ebrill 2018, ond mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan gabinet y cyngor ar reoli'r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau yn dangos fod y nifer yn parhau i gynyddu yn y sir.
'Ymwybodol iawn o bryder cynyddol'
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r grym i gynghorau godi swm ychwanegol o hyd at 100% dros lefel safonol treth cyngor ar eiddo o'r fath.
Bwriad yr ymgynghoriad cyhoeddus oedd rhoi cyfle i drigolion leisio barn ar a ddylid cyflwyno cyfradd uwch o dreth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag.
Ddydd Gwener dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James, dolen allanol: "Yr ydym yn ymwybodol iawn o bryder cynyddol mewn rhai rhannau o Gymru am effaith ail gartrefi ar gymunedau, mynediad at dai a fforddiadwyedd, ac effaith hyn oll ar y Gymraeg.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau pendant - gan roi hyblygrwydd sylweddol i awdurdodau lleol ddefnyddio nifer o wahanol gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Grant Tai Cymdeithasol, i helpu i fynd i'r afael â'u hanghenion tai lleol.
"Ni yw'r unig weinyddiaeth yn y DU sydd wedi caniatáu i bremiwm treth cyngor gael ei godi ar ail gartrefi."
Dywedodd hefyd ei bod yn ymwybodol o honiadau bod rhai perchnogion yn camddefnyddio'r system "wrth iddynt restru eu heiddo fel llety hunanarlwyo annomestig er mwyn osgoi talu premiymau'r dreth gyngor".
'Y goludog yn elwa ar draul trethdalwyr lleol'
Ond yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn "mae'r llywodraeth yn llusgo ei thraed ac mae angen gweithredu ar frys".
"Yn y tymor byr gallai'r llywodraeth gyfarch y sefyllfa gywilyddus ac yn wir, anfoesol, bod perchnogion ail gartrefi yn gallu osgoi talu treth o unrhyw fath ar eu heiddo.
"Mae'n amddifadu awdurdodau lleol rhag defnyddio'r adnodd i greu tai i bobl leol yn lle'r rhai a gollwyd. Mae'n gyfwerth â £5.2m bob blwyddyn yng Ngwynedd yn unig," meddai Mr Siencyn.
"Mae'n ymddangos eu bod yn barod i ganiatáu tywallt miliynau o bunnoedd i bocedi y goludog a'r breintiedig ar draul y trethdalwyr lleol a'r rhai sy'n methu prynu cartref cyntaf hyd yn oed.
"Waeth i ni heb â chael yr hawl i godi premiwm ar ail gartrefi os oes modd osgoi talu treth o gwbl."
Bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar y polisi dros y misoedd nesaf.
'Pobl leol methu prynu na rhentu'
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd: "Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos fod sefyllfa tai gwyliau yn fater o argyfwng a'i bod hi bron yn amhosib i lawer iawn o bobl Gwynedd gael troed ar y farchnad dai - boed hynny i brynu neu rentu cartref.
"Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae prisiau tai uchel oherwydd y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio prisiau ymhell y tu hwnt i afael pobl leol mewn llawer iawn o gymunedau Gwynedd.
"Ers Ebrill 2018, mae'r Cyngor wedi codi 50% yn ychwanegol o dreth cyngor ar berchnogion ail gartrefi a thai gwag, gyda'r arian yma yn cael ei glustnodi ar gyfer cynlluniau tai sy'n cefnogi pobl Gwynedd i gael mynediad i dai addas yn ein cymunedau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018