Cymry'n sbarduno twf enfawr mewn rygbi yn Rwanda

  • Cyhoeddwyd
Plant yn Rwanda mewn crysau Clwb Rygbi'r TymblFfynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Glyn Watkins yn hyfforddi criw o fechgyn yn Rwanda, sy'n gwisgo crysau clwb rygbi'r Tymbl

Gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau'r penwythnos hwn, bydd dilynwyr rygbi Cymru yn gobeithio am lwyddiant ar y cae i godi ychydig ar ysbryd y genedl.

Oherwydd rheolau coronafeirws mae'n mynd i fod yn gystadleuaeth wahanol iawn i'r arfer eleni, gan na fydd cefnogwyr yn gallu dod at ei gilydd yn unman i wylio'r gemau.

Mae rygbi wedi llwyddo i godi calon cenedl arall yn dilyn cyfnod tywyll tu hwnt yn eu hanes, ac i ŵr a gwraig o Gymru y mae'r diolch.

Mewn achos o hil-laddiad yn Rwanda yn 1994, lladdwyd 800,000 mewn 100 niwrnod, a rhwygwyd cymunedau yn y wlad.

Gwirfoddoli mewn ysgol

Ond dros y saith mlynedd ddiwethaf mae cwpl o Gasnewydd wedi bod yn dod â chymunedau'n ôl at ei gilydd drwy chwarae rygbi.

Aeth yr athrawon Mary a Glyn Watkins i Rwanda i wirfoddoli mewn ysgol yng ngorllewin y wlad, yng nghanol cyfandir Affrica.

Sefydlodd y ddau elusen Cyfeillion Rygbi Rwanda i hybu'r gamp, ac mae eu brwdfrydedd wedi sbarduno diddordeb mawr yn y gêm ymhlith plant ac oedolion ifanc ar draws y wlad.

Yn ogystal â hyfforddi maent wedi sicrhau cefnogaeth clybiau rygbi yng Nghymru, sydd wedi anfon dillad a chyfarpar rygbi i'r wlad.

Ffynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Mary Watkins yn rhannu dillad rygbi gyda phlant yn Rwanda

Dywedodd Mr Watkins fod pennaeth yr ysgol wedi gofyn iddo ddysgu'r gêm i'r myfyrwyr.

"Dwi'n meddwl fy mod i wedi cael fy stereoteipio!" meddai.

"Am fy mod i'n Gymro, dywedodd y pennaeth wrtha'i na fyddwn i'n debygol o wybod unrhyw beth am bêl-droed, ond y byddwn yn gwybod rhywbeth am rygbi, ac ar ôl peint neu ddau mi wnes i gytuno i gymryd sesiwn hyfforddi.

"Roedd gan yr ysgol un bêl rygbi, dyna'i gyd. Roeddwn i'n disgwyl tua 15 i droi i fyny i'r sesiwn hyfforddi, ond fe drodd 200 i fyny, felly dechreuais ddysgu sylfeini rygbi tag iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Un bêl rygbi oedd gan yr ysgol pan ddechreuodd Mr a Mrs Watkins ar eu gwaith

Elusen Mr a Mrs Watkins wnaeth hyfforddi tîm cenedlaethol Rwanda ar gyfer eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd gyntaf yn erbyn Arfordir Ifori hefyd.

Dywedodd Mrs Watkins: "Fe gawson ni wythnos efo'r tîm cenedlaethol, ond mae hi'n anodd iddyn nhw achos mae rhai'n gweithio shifftiau nos, felly roeddan nhw'n gweithio drwy'r nos, hyfforddi drwy'r dydd, ac yn gweithio drwy'r nos eto wedyn.

"Ond mi gawson ni nhw mewn rhyw fath o siâp i wynebu Arfordir Ifori.

"Yn anffodus fe gollon nhw'n drwm, ond roedd eu helpu nhw i baratoi yn gyfle anhygoel, a bydd yn arwain at daith flynyddol gan y chwaraewyr i gyflwyno'r gêm mewn rhannau eraill Rwanda."

Colli tri aelod o'i deulu

Er eu bod mewn lleiafrif, llwyth y Tutsi oedd wedi rheoli Rwanda ers amser hir, ac roedd hynny wedi arwain at densiwn rhyngddynt â llwyth yr Hutu.

Berwodd y drwgdeimlad drosodd yn 1994 pan ddechreuodd eithafwyr o lwyth yr Hutu dargedu'r Tutsi gan arwain at yr hil-laddiad dychrynllyd.

Collodd Kamanda Tharcisse dri aelod o'i deulu yn y trais, ond bellach mae'n llywydd Ffederasiwn Rygbi Rwanda.

Dywedodd bod rygbi wedi dod â'r bobl at ei gilydd a bod y gêm "yn boblogaidd iawn mewn ysgolion".

Ffynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Mary Watkins yng nghanol tomen o grysau a chyfarpar rygbi

"Rygbi yw'r un gêm a chwaraeodd ran yn uno'r bobl yn dilyn yr hil-laddiad," meddai.

"Pan rydym yn chwarae rydym yn gwenu, a nawr rydym i gyd yn Rwandaid.

"Nid oes unrhyw raniadau pan rydym yn chwarae rygbi. Rydym yn ysgwyd llaw ac uno ar ôl y gêm, rydym yn dathlu gyda'n gilydd, yn yfed gyda'n gilydd. Mae'r gêm wedi dod ag undod rhwng y bobl yma.

"Mae Mary a Glyn wedi bod yn wych i'r gymuned rygbi yn Rwanda ers pan oeddynt yn athrawon gwirfoddol yma - yn trefnu sawl twrnament a hefyd yn hyfforddi athrawon."

Ffynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Mae rygbi wedi helpu cymunedau Rwanda i ddod at ei gilydd yn dilyn yr hil-laddiad yno yn 1994

Cyn y pandemig roedd Cyfeillion Rygbi Rwanda yn dysgu'r gêm i blant ac oedolion ifanc mewn dros 100 o ysgolion a chymunedau mewn 10 allan o 30 rhanbarth ar draws Rwanda.

Maent wedi cael cefnogaeth gan glybiau rygbi o Gymru, gan gynnwys y Dreigiau, Rhisga, Cil-y-coed, Bonymaen, Oakdale a'r Tymbl.

Dywedodd Mr Watkins bod yr elusen yn cyflogi 10 swyddog datblygu rygbi ar draws y wlad, a'u bod yn ceisio dysgu'r chwaraewyr i barchu'r egwyddorion gorau - chwarae teg a pharch, ac i chwarae'r gêm yn yr ysbryd cywir fel ei fod o fudd i Rwandiaid.

Ffynhonnell y llun, Cyfeillion Rygbi Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Mae Donatien Ufitimfura bellach wedi ffurfio ei dim rygbi ei hun

Cafodd Donatien Ufitimfura o orllewin Rwanda ei gyflwyno i rygbi gan Mr a Mrs Watkins yn 2014 ac erbyn hyn, mae wedi sefydlu tîm ei hun - Rusizi Resilience RFC.

"Mae Cymru'n gefnogol iawn i rygbi Rwanda ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith, yn enwedig gwaith Mary a Glyn," meddai.

'Cariad at Gymru'

Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Mrs Watkins yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaeth i ddatblygiad rhyngwladol.

"Mae Rwanda'n wlad wedi ei chreithio gan yr hil-laddiad ond mae ganddi lawer o gariad at Gymru," meddai.

"Mae'n rhaid bod 50 o dimau yma yn chwarae mewn dillad clybiau Cymru, ac fe welwch lawer o glybiau Rwanda yn arddangos baner Cymru."

Ychwanegodd bod gan Gymru a Rwanda llawer yn gyffredin.

"Mae'n fryniog, mae'n bwrw glaw lot, mae'n wyrdd, mae'n brydferth, mae'r bobl yn gyfeillgar a rŵan mae ganddyn nhw rygbi. Mae'n union fel Cymru."