Cofnodi profiadau llanciau yn y Gwasanaeth Cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae hanes y dynion gafodd eu gorfodi i fynd i'r lluoedd arfog yn cael ei gofnodi mewn prosiect newydd.
Eleni, mae hi'n 60 mlynedd ers i'r olaf o'r rheiny gael eu galw i wneud cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol.
I nodi hynny, mae elusen o Sir y Fflint wedi cyhoeddi arddangosfa ar-lein sy'n adrodd stori 18 dyn o ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Un o'r amcanion yw dangos yr "ystod eang o brofiadau" gafodd y llanciau.
Roedd system Gwasanaeth Cenedlaethol - neu National Service - ar waith rhwng 1949 a 1963, ac fe gafodd tua dwy filiwn o ddynion eu galw i wasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd o hyd.
'Yn waeth i fy rhieni'
18 oed oedd Elwyn Davies pan gafodd yr alwad. Roedd ar fin dechrau gyrfa gyda'r heddlu ym Mae Colwyn - ond yn sydyn, roedd mewn lifrau milwrol gydag Argyfwng Suez yn mudferwi yn y cefndir.
Wedi tri mis o hyfforddiant sylfaenol yn Lloegr, cafodd ei yrru - yn groes i'r arfer - i wneud ei battle training yn Yr Aifft.
"Cyrhaeddais Port Said yn llawn uniform khaki, a chael ein rhedeg rownd y sgwâr - left, right, left, right - tan oeddan ni'n bron yn faintio," meddai. "Mi oedd hi'n ofnadwy o boeth."
Wrth i'r argyfwng ei hun boethi, ymosododd lluoedd arfog Israel yr Aifft, cyn i luoedd Prydain a Ffrainc wneud yr un fath. Ond arhosodd Mr Davies a'i gyd-filwyr yn eu barics.
"Roeddan ni'n protected ohono fo, wir," meddai.
"Ond roedd o'n waeth i'n rhieni i. Ro'n i'n un sâl ofnadwy am 'sgwennu adra. Yn y diwedd, dyma mam yn 'sgwennu at y commanding officer i ofyn a o'n i'n iawn - a dyma fo'n fy ngalw i fewn a dweud 'write a letter now!'
"Mi oedden nhw'n poeni fwy nag o'n i, i fod yn onest."
Mae hanes Mr Davies ymhlith y rheiny sydd i'w gweld yn arddangosfa National Service Remembered, gafodd ei llunio gan elusen Same But Different o'r Wyddgrug a Chronfa Treftadaeth y Loteri.
Diffyg sylw
Yn ôl Ceridwen Hughes o'r elusen, prin yw'r rheiny sy'n talu sylw i'r "cyfnod diddorol" hwn.
"Mae rhai pobl yn meddwl fod y milwyr hyn wedi aros ym Mhrydain a heb fod yn actif, ond mae hynny'n bell o'r gwirionedd," meddai.
"Aeth rhai i Singapore, i Argyfwng Suez, i'r Almaen - roedd 'na ystod eang o brofiadau."
Tra fod cyfranwyr y prosiect, ar y cyfan, yn edrych yn ffafriol ar eu cyfnod o wasanaeth cenedlaethol, mae Ms Hughes yn cydnabod nad dyna brofiad pawb.
"Roedd nifer [o'r cyfranwyr] yn adnabod pobl o fewn eu platŵn gafodd amser caled iawn," meddai.
"Dywedodd un wrtha' i ei fod o'n adnabod dyn aeth i Seland Newydd er mwyn osgoi cael ei ddrafftio."
'Roedd rhaid ei wneud o ar y pryd'
Fe orffennodd Elwyn Davies ei wasanaeth cenedlaethol yn gweithio i uwchgapten mewn pencadlys yn Llundain, cyn dychwelyd i Gymru i ailymuno â'r heddlu.
Bellach yn 83 ac yn byw yn Nhreffynnon, mae'n dweud na fyddai wedi gwneud cystal yn ei yrfa heb ei brofiad milwrol. Ond a oedd y drefn yn greulon?
"Mi oedd y sarjants a'r NCOs yn greulon, does na'm dowt o hynny. Ond y system ei hun yn greulon? Na, dwi ddim yn meddwl ei fod o. Roedd rhaid ei wneud o ar y pryd.
"Dwi ddim yn meddwl y buasai pobl ifanc heddiw yn medru delio efo'r ddisgyblaeth. Ond oes angen rhywbeth felly heddiw? Dwi ddim yn siŵr... na, dwi ddim yn meddwl."
Am y tro, arddangosfa ar-lein yw National Service Remembered, ond mae bwriad mynd â hi ar daith yn ddiweddarach yn 2021 os fydd hynny'n bosib.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014