Rhai disgyblion cynradd i ddychwelyd i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gweinidog addysg gyhoeddi y bydd y plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd yn dychwelyd i'r dosbarth ar ôl hanner tymor mis Chwefror.
Y gred yw y bydd Kirsty Williams yn gwneud y cyhoeddiad brynhawn Gwener yn dilyn trafodaethau gydag undebau athrawon, a chwymp mewn achosion coronafeirws.
Byddai'n golygu mai disgyblion cyfnod sylfaen - rhwng tair a saith oed - fyddai'r cyntaf i ddechrau dysgu wyneb yn wyneb unwaith eto o 22 Chwefror.
Mae'r mwyafrif helaeth o blant wedi bod yn derbyn eu haddysg o adref ers dechrau'r flwyddyn, fel rhan o'r cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf.
Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford eisoes wedi dweud mai cael y plant ieuengaf yn ôl i'r dosbarth oedd y flaenoriaeth.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau fod cyfradd yr achosion yng Nghymru wedi gostwng o tua 700 i bob 100,000 o bobl cyn y Nadolig i 127 - yr isaf o genhedloedd y DU.
Mae undebau wedi galw am fasgiau gradd feddygol i athrawon yn y cyfnod sylfaen.
Dywedwyd wrth bob ysgol a choleg yng Nghymru symud i ddysgu ar-lein cyn dechrau'r tymor hwn mewn ymdrech i "atal y feirws", meddai Kirsty Williams ddechrau mis Ionawr.
Roedd rhai ysgolion i fod i agor yn y flwyddyn newydd ond galwodd undebau am ohirio'r dychweliad yn sgil pryderon am amrywiolyn o'r haint.
Er hynny, mae ysgolion a cholegau wedi aros ar agor i blant gweithwyr allweddol a rhai ag anghenion dysgu, yn ogystal ag i ddysgwyr a oedd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.
'Angen' bod gyda ffrindiau
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Catrin Williams Jones o Gaerdydd - sy'n fam i efeilliaid naw oed - bod ei phlant yn barod i ddychwelyd i'r dosbarth:
"O'dd y cyfnod clo llynedd yn llawer haws, oedden ni'n llawer agosach i'r gwanwyn ac yn mynd mewn i'r haf, n'ethon nhw dreulio llawer iawn o amser tu fas.
"A chwarae teg i'r ysgolion - a dwi'n athrawes hefyd - mae'n ffurf ni o ddysgu wedi datblygu ac mae nhw'n cael llawer iawn o gyfleon ar-lein wyneb yn wyneb gyda'r athrawes.
"Ond ma nhw'n mynd yn hŷn, ma' nhw'n wirioneddol angen bod nôl ar iard yr ysgol yn rhedeg gyda'u ffrindiau."
Ond nid pawb sy'n cytuno bod angen i blant fod yn ôl gyda'i gilydd.
"Mae'n rhaid edrych ar y peth yn ddyfnach na theimlad plentyn", meddai Julian Jones o Fancffosfelen, sy'n gyfarwyddwr ar gwmni cyflenwi athrawon ac yn gyn-bennaeth Ysgol Gynradd Llandeilo.
"Mae'n rhaid i ni fod yn sicr yn beth 'y ni'n neud... ma' nhw 'di llwyddo i ddod lawr a rhif y pobl sy'n colli bywyd, pobl sydd angen triniaeth, a rhaid bo' ni'n cadw ar y trywydd hyn nes bod y sefyllfa yn cyrraedd man lle mae pawb yn ddiogel i fynd i'r gwaith.
"Sa i'n gweld unrhyw un o'r aelodau'n hastu i fynd nôl i'r Siambr - ma' nhw'n gweithio o gartre - ond mae'r gymuned fwya' sydd gyda ni o unrhyw gymuned, sef yr ysgol, yn gorfod mynd nôl at eu gwaith," meddai.
Galw am weld y 'wyddoniaeth'
Dywedodd undeb NASUWT fod grŵp o undebau wedi cyflwyno rhestr o "liniaru" yr oedden nhw am eu gweld yn cael eu gweithredu.
Maen nhw'n cynnwys pellhau cymdeithasol caeth, masgiau gradd feddygol i athrawon yn y cyfnod sylfaen, ac "ystyriaeth bellach o ddychwelyd yn hyblyg a graddol".
Tebyg yw neges Dilwyn Roberts-Young o UCAC, sy'n galw am "ganllawiau clir ynghylch cadw pellter cymdeithasol, y defnydd o orchuddion wyneb, awyru digonol, a pha staff sy'n cael eu cynghori i beidio dychwelyd a pharhau i weithio o adre".
Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT Cymru, eu bod hefyd am weld y gweithwyr addysg hynny a fyddai'n cymryd rhan mewn addysgu wyneb yn wyneb o 22 Chwefror yn cael "mynediad â blaenoriaeth i frechiadau".
Mae undeb penaethiaid, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, wedi dweud eu bod am weld y modelu gwyddonol ar yr effaith y gallai dychweliad disgyblion ei gael.
Dywedodd Laura Doel o NAHT Cymru ei bod yn "siomedig iawn" o fod mewn "sefyllfa ble mae penderfyniadau'n cael eu rhoi ar y sector tra bod gormod o gwestiynau sydd heb eu hateb".
Ddydd Sadwrn diwethaf, llaciodd Llywodraeth Cymru y cyfyngiadau er mwyn caniatáu i unigolion gwrdd ag un person arall o aelwyd arall i wneud ymarfer corff y tu allan.
Ond mae pobl yng Nghymru wedi cael eu rhybuddio eu bod yn annhebygol o weld y cyfyngiadau'n cael eu lleddfu "yn radical ac yn sylweddol" y mis hwn.
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru y byddai angen i'r achosion barhau i ostwng cyn i hynny ddigwydd.
Mae adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau, sy'n digwydd bob tair wythnos, wedi'i drefnu ar gyfer 19 Chwefror.
Galwodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg am fynd ymhellach, a "gweithredu'r cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd uwchradd hanfodol", meddai Suzy Davies AS.
Dywedodd bod angen cynllun "hyd yn oed mwy deinamig, arloesol, hyblyg ac yn y pen draw diogel".
Dywedodd Sian Gwenllian AS o Blaid Cymru bod "angen sicrwydd ar rieni, disgyblion a staff bod amgylchedd yr ysgol yn ddiogel".
Gallai hynny olygu "defnydd helaethach o awyru, symud gweithwyr ysgol i frig eu grŵp blaenoriaeth brechu, a rhaid rhoi pob opsiwn i ysgolion alluogi ymbellhau cymdeithasol digonol mewn ystafelloedd dosbarth", meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2021