Galw am ohirio arolygon ysgolion Cymru tan 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gweithio adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai arolygon Estyn gael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i ysgolion "ddal fyny" efo gwaith academaidd a delio â phroblemau "lles disgyblion", yn ôl Plaid Cymru.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd eu llefarydd ar addysg, Siân Gwenllian AS mai'r "peth olaf sydd ei angen ydy'r baich ychwanegol" sydd ynghlwm ag arolygon o'r fath.

Fe gafodd arolygon Estyn eu gohirio ar ddechrau'r pandemig er doedd dim arolygon i fod yn y flwyddyn academaidd bresennol wrth i ysgolion baratoi at "ddiwygiad y cwricwlwm".

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gobeithio ailddechrau "rhyw lefel o arolygon ym mis Medi" er eu bod nhw'n cydnabod fod hynny'n ddibynnol ar y cyfyngiadau.

Gweithio 'mewn ffyrdd eraill'

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ysgolion Cymru wedi gorfod trawsnewid y ffordd maen nhw'n addysgu gyda'r mwyafrif o ddisgyblion yn dysgu o gartref.

Yn sgil hynny mae arolygon Estyn wedi eu gohirio gyda staff bellach yn gweithio mewn ffyrdd eraill i gefnogi ysgolion.

Ond gyda Llywodraeth Cymru'n gobeithio ailgyflwyno "lefel o arolygu" erbyn mis Medi 2021 mae 'na alwadau gan Blaid Cymru a phenaethiaid i oedi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Siân Gwenllian mai nawr yw'r amser i adolygu'r drefn bresennol

Yn ôl Ms Gwenllian mae athrawon am "ganolbwyntio ar ddal fyny ar addysg", nid wynebu arolygon.

"Mae ysgolion am fod efo lot fawr o waith i 'neud i helpu'r plant a'r bobl ifanc i ddal fyny efo'r holl addysg maen nhw wedi'i golli," meddai.

"Y peth olaf maen nhw eisiau ydy'r baich a'r straen ychwanegol sydd yn dod yn anorfod efo arolygiad estyn.

"Dwi'n meddwl y peth teg a synhwyrol i'w wneud ydy i beidio ailddechrau'r holl broses."

'Colli chwe mis a hanner o ddysgu'

Mae'r safbwynt yma hefyd wedi ei gefnogi gan bennaeth Ysgol Friars Bangor, sydd hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith undeb athrawon yr NEU.

Yn ôl Neil Foden mae arolygon yn creu pwysau "ychwanegol sylweddol".

"Mae hynny'n golygu tydi ysgol ddim wir yn gweithredu fel mae hi fel arfer," meddai.

"Mae 'na ychydig o dystiolaeth sy'n argymell fod ysgolion sydd wedi cael arolwg... dydy safonau ddim cweit cystal am weddill y flwyddyn academaidd oherwydd yr effaith mae'r arolwg wedi ei gael."

Ychwanegodd Mr Foden y bydd ysgolion wedi colli bron i chwe mis a hanner o ddysgu arferol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Neil Foden mae arolygon yn creu pwysau "ychwanegol sylweddol".

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n bwysig fod arolygon yn ailddechrau "pan mae'r amser yn iawn" ac maen nhw'n gobeithio cyflwyno "lefel o arolygu" erbyn mis Medi 2021.

Er hyn maen nhw yn cydnabod fod hynny oll yn ddibynnol ar gyfradd heintio'r feirws.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Estyn fod eu staff nhw wedi bod yn cefnogi ysgolion ers dechrau'r pandemig a "mater i'r llywodraeth ydy amserlennu arolygon o'r fath".